Canolfan Ieuenctid Cynffig
Ymunwch â ni yng Nghanolfan Ieuenctid Cynffig, i bawb sy'n 11 oed ac yn hŷn.
Ymlaciwch mewn amgylchedd cynnes a chroesawgar, a chofiwch, mae ein gweithwyr ieuenctid cyfeillgar yma i gynnig cyngor ac arweiniad pryd bynnag y byddwch ei angen!
Dyma gipolwg ar yr hyn sydd gennym ar y gweill i chi yn ystod y sesiynau:
- Cicio Pêl yn y Neuadd Chwaraeon: Dangoswch eich sgiliau pêl-droed a mwynhau'r gêm
- Gemau Xbox: Plymiwch i ganol sesiynau gemau cyfrifiadur epig
- Gorsaf Harddwch: Beth am bampro eich hun a bod yn glam
- Gemau Hwyl: Heriwch eich ffrindiau a chael hwyl
- Siop Ddanteithion Flasus: Bachwch ychydig o snaciau blasus i gadw eich nerth
Welwn ni chi yno am noson o hwyl a chyffro!
Canolfan Ieuenctid Cynffig
Cyfeiriad: Ysgol Gyfun Cynffig (Adain Ieuenctid), Rhodfa'r Dwyrain, Mynydd Cynffig, CF33 6NP.
Oriau Agor 1: Dydd Mawrth: 5pm - 7pm
Oriau Agor 2: Dydd Iau: 5pm - 7pm