Canolfan Ieuenctid Evergreen

Ymunwch â ni yng Nghanolfan Ieuenctid Evergreen, i chi bobl ifanc anhygoel 11 oed ac yn hŷn!

Dyma gipolwg ar yr hyn sydd gennym ar y gweill i chi yn ystod y sesiynau:

  • Cystadleuaeth Pêl-fasged: Ewch amdani i anelu at y rhwyd a dangos eich symudiadau
  • Cystadlaethau Pŵl: Rhowch y peli yn eu lle a chystadlu i ennill
  • Bwrdd Gemau Infinity: Heriwch eich ffrindiau i oriau bwygilydd o hwyl a gemau
  • Gemau PS5: Beth am gystadlu ar y consol diweddaraf
  • Dawns a Charioci: Dewch draw i ddawnsio neu i ganu nerth eich pen i'ch hoff gerddoriaeth
  • Danteithion o'r Siop: Cyfle i gael gafael ar snac neu ddau i gadw nerth
  • Hwyl Ffitrwydd: Amser symud efo heriau ffitrwydd ffantastig
  • Gemau Bwrdd i Bawb: Mwynhewch y gemau bwrdd clasurol - a'r rhai newydd

A dim ond y dechrau yw hynna! Dewch draw am chwa o hwyl a chyffro bob wythnos.

Be Sy’ Mlaen?

Golygyddion Ifanc

Golygyddion Ifanc

Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm

Rhyddhewch eich creadigrwydd yn ein grŵp cymunedol rhyngweithiol lle gallwch ennill sgiliau gwerthfawr. Rhowch gynnig ar ddylunio, cyfryngau cymdeithasol, marchnata, adeiladu gwefan a mwy!

Nod ei grŵp sy'n cael ei arwain gan bobl ifanc yw newid y ffordd y mae'r gwasanaethau ieuenctid yn cysylltu'n ddigidol gyda phobl ifanc.

Welwn ni chi yno am anturiaethau creadigol anhygoel!

Yr Hyb (18-25 oed)

Yr Hyb (18-25 oed)

Bob Dydd Llun, 6pm - 8pm

Dewch o hyd i'ch criw chi. Ymunwch â ni yn Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i gysylltu, gwneud ffrindiau ac archwilio'r cymorth anhygoel sydd gennym i'w gynnig. Y lle perffaith i gymdeithasu.

Mynediad am ddim

Pobl Ifanc Pride - YPOP (11-17 oed)

Pobl Ifanc Pride - YPOP (11-17 oed)

Dydd Llun, 4pm – 6pm

Ymunwch â ni mewn lle diogel a chyffrous, lle gallwch gymysgu, gwneud ffrindiau newydd a darganfod yr holl bethau gwych sydd gan Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr i'w gynnig.

Clwb Dawel

Clwb Dawel (Atgyfeiriad yn unig)

Bob dydd Iau, 4.30pm - 6.30pm

Dewch o hyd i’ch criw hamddenol -  Chwilio am le hamddenol i wneud ffrindiau newydd?

Ymunwch â ni mewn amgylchedd heddychlon lle gallwch gwrdd â phobl newydd sy’n mwynhau awyrgylch tawelach. P’un a ydych yn mwynhau darllen, celf a chrefft, gemau bwrdd neu ymlacio gyda chwmni da, hwn yw’r lle i chi.

Ebost: youthsupport@bridgend.gov.uk

Canolfan Ieuenctid Evergreen

Canolfan Ieuenctid Evergreen

Cyfeiriad: Neuadd Evergreen, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AD.
Oriau Agor 1: Dydd Mawrth: 5pm - 7pm
Oriau Agor 2: Dydd Mercher: 5pm - 7pm

Chwilio A i Y

Back to top