Eich Llais

Mae eich barn yn bwysig i ni, yn enwedig wrth sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn bodloni eich anghenion.

Yn y Bleidlais Gwneud eich Marc 2024 fe wnaethoch chi ddweud wrthym mai Iechyd a Lles ac Addysg a Dysgu oedd y ddau bwnc pwysicaf i chi.

Ers 2024, mae ein harolygon ar Iechyd Emosiynol a Gwrth-fwlio wedi cael eu datblygu trwy gydweithio â Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr, y tîm Hawliau a Chyfranogiad Pobl Ifanc a Gwasanaeth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym hefyd wedi datblygu 'Dywedoch Chi, Gwnaethon Ni' sy’n esblygu, mewn ymateb i adborth pobl ifanc, i lunio ein Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a diwallu eich anghenion yn well. 

Graffig: Eich Llais

Eich Llais – Arolwg Addysg a Dysgu

Y tymor hwn rydym eisiau mewnbwn llais ieuenctid ar anghenion Addysg a Dysgu ym mwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Rydym wedi cydweithio â Chyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr eto ac wedi creu arolwg i ddarganfod sut y gallwn lunio ein gwasanaethau cymorth ieuenctid ymhellach i ddiwallu eich anghenion chi.

Mae hwn yn arolwg gwirfoddol, dienw. Byddwn yn defnyddio data'r arolwg i lywio gwasanaethau a fydd hefyd yn cael eu cyhoeddi ar ein tudalen we Eich Llais. Mae pob defnydd o ddata yn cael ei wneud yn ddienw. Gallwch roi'r gorau i'r arolwg ar unrhyw adeg.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau:

Dwedoch Chi - Gwnaethon Ni

Dyddiad

Ffynhonnell

Dywedoch Chi

Gwnaethon Ni

Statws

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Ffrindiau a theulu sy’n gwneud i chi deimlo'n fwyaf hapus.

Sefydlu gweithdai iechyd emosiynol i gynnwys teuluoedd.

Parhaus

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Bwlio sy’n cyfrannu at i chi deimlo’n fwyaf anhapus.

Dyluniwyd ein harolwg sir gyfan nesaf i werthuso beth sy'n gweithio'n dda, a sut y gallwn herio bwlio ymhellach.

Arolwg newydd yn cael ei lansio ym mis Mai 2025.

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Ar hyn o bryd rydych chi'n cael y rhan fwyaf o’ch cymorth gan rieni.

Sefydlu gweithgor i ddatblygu adnoddau i rieni eu defnyddio i atgyfnerthu ymyriadau a gynigir gan ein staff.

Parhaus

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Byddech chi'n gwneud defnydd o gymorth pe bai ar gael i chi.

Hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws ysgolion a'r lleoliadau cymunedol.

Rydym wedi dylunio:

Linktree cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd emosiynol yn yr ardal.

Creu sesiwn galw heibio mynediad agored yn ein Hwb Ieuenctid Bytholwyrdd.

Cynnal gweithdai sydd ar gael yn ein canolfannau ieuenctid yn uniongyrchol.

Defnyddio ein bws ieuenctid symudol i ymweld ag ysgolion i hyrwyddo gwasanaethau yn ystod eich amseroedd egwyl.

Parhaus (gwelwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae sesiynau a chefnogaeth ar gael).

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Byddai’n well gennych gael cefnogaeth yn bersonol gan amlaf ac roeddech chi’n llai tebygol o fod eisiau cefnogaeth mewn grŵp.

Ail-alinio ein cyllid i gyflogi gweithwyr ieuenctid ychwanegol i gynnig cymorth wyneb yn wyneb.

Hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws ysgolion a'r gymuned gyda phresenoldeb cymorth ieuenctid mewn ysgolion a gyda allgymorth yn y gymuned.

Sefydlu gweithgor gyda'n Cyngor Ieuenctid i archwilio cymorth cyfoed i gyfoed.

Parhaus (gwelwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae sesiynau a chefnogaeth ar gael).

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Yr ofn o gael eich barnu oedd y prif beth a fyddai'n eich atal rhag cael cefnogaeth.

Rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws y gymuned gyda phresenoldeb cymorth ieuenctid ac allgymorth yn y gymuned, gan fynd i’r afael â’r pryder a’r ofn ynghylch cael eich barnu.

Rhoi’r dasg i'n Golygyddion Ifanc ddatblygu posteri i hyrwyddo gwasanaethau cymorth gan gynnwys ein gwasanaeth cwnsela.

Ailddatblygu ein sgyrsbot y gellir ei ddefnyddio i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr ieuenctid unrhyw ddiwrnod o'r wythnos rhwng 10am a 5pm.

Parhaus

 

 

Chwilio A i Y

Back to top