Eich Llais

Mae eich barn yn bwysig i ni, yn enwedig wrth sicrhau bod y gwasanaethau rydyn ni’n eu cynnig yn bodloni eich anghenion.

Ers hydref 2024 mae pobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cynnig eu barn ar bynciau iechyd a lles, herio bwlio ac addysg a dysgu. 

Rydyn ni wedi gwrando a datblygu 'Dwedoch Chi, Gwnaethon Ni' mewn ymateb i adborth pobl ifanc, i lunio ein Gwasanaeth Cymorth Ieuenctid a diwallu eich anghenion yn well. 

Graffig: Eich Llais

Eich Llais – Iechyd a Lles, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon

Yn fwy diweddar, datgelodd pleidlais 'Codi Eich Llais' ledled y sir yn 2026 mai Iechyd a Lles a Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw’r ddau bwnc pwysicaf i bobl ifanc ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Y tymor hwn rydyn ni’n chwilio am farn pobl ifanc ar anghenion Iechyd a Lles, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon.

Mae hwn yn arolwg dienw, gwirfoddol ar gyfer pobl ifanc rhwng 11 a 25 oed.

Byddwn yn defnyddio data'r arolwg i siapio gwasanaethau a fydd hefyd yn cael ei gyhoeddi ar ein tudalen we Eich Llais.

Mae pob defnydd o ddata yn ddienw, a gallwch roi'r gorau i'r arolwg ar unrhyw adeg.

Edrychwn ymlaen at glywed eich barn!

Mae croeso i chi gysylltu â ni gydag unrhyw gwestiynau:

Dwedoch Chi - Gwnaethon Ni

Dyddiad

Ffynhonnell

Dywedoch Chi

Gwnaethon Ni

Statws

Mai – Medi 2025

Arolwg Eich 
Llais – 
Tymor yr 
Haf 2025

Roedd dau faes lle roedd angen gwelliant amlwg o ran derbyn cymorth ar gyfer bwlio:

  1. 'Peidio â bod ofn wrth roi gwybod am fwlio'

  2. 'Ôl-ofal' 'h.y. A wnaeth unrhyw un wneud yn siŵr eich bod chi’n iawn ar ôl i chi roi gwybod am y bwlio?'  

Y maes nesaf i’w wella oedd pobl ifanc sy’n adrodd eu bod yn 'Cael eu clywed a'u cymryd o ddifrif'.

  • Darparwyd gwybodaeth i staff a phobl ifanc am weithdy herio bwlio a gwasanaethau gwrth-fwlio, adnoddau lles, gwybodaeth ymgynghori Llywodraeth Cymru a chodwyd ymwybyddiaeth o adnoddau Herio Bwlio: Hawliau, Parch, Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

  • Ym mis Mai, cynhaliodd Cyngor Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr ddigwyddiad lles mewn cydweithrediad â Chymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr.

  • Datblygwyd cod ymddygiad cynhwysfawr ar draws y Gwasanaethau Ieuenctid yn amlinellu ein polisi dim goddefgarwch ar gyfer bwlio lle nododd Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr:
    • "Ni fyddwn yn goddef unrhyw fath o fwlio yn ein clybiau ieuenctid neu sefydliadau ieuenctid cysylltiedig (CIP) ac felly byddwn yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth am achosion o fwlio i'r ysgol, rhieni a gwarcheidwaid ac yn eu rheoli yn unol â'n Polisi Diogelu"

  • Datblygwyd Coeden Ddolenni sy'n cynnwys gwasanaethau gwrth-fwlio a chymorth iechyd emosiynol ac adnoddau i bobl ifanc eu defnyddio ar draws Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Gweler isod.  

Mae’r canfyddiadau hyn wrthi’n cael eu rhannu o fewn y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid. 

Parhaus

Mai – Medi 2025

Arolwg Eich 
Llais – 
Tymor yr 
Haf 2025

Roedd tri maes yr oedd angen eu gwella llawn cymaint â’i gilydd:

  1. 'Argaeledd cymorth' 'h.y. oeddech chi'n ymwybodol o sut i gael mynediad at gymorth ar gyfer bwlio?'

  2. Mynediad at gymorth dilynol (h.y. A gynigiwyd cymorth arall ar gyfer anghenion iechyd emosiynol/e.e. hunan-barch/magu hyder/perthnasoedd iach?)'

  3. 'Effeithiolrwydd cefnogaeth' (h.y. A wnaeth y gefnogaeth wahaniaeth cadarnhaol i'r bwlio?)'
  • Codwyd ymwybyddiaeth o’n Coeden Ddolenni sy'n cynnwys gwasanaethau gwrth-fwlio a chymorth iechyd emosiynol ac adnoddau i bobl ifanc eu defnyddio ar draws Cymorth Ieuenctid Pen-y-bont ar Ogwr. Gweler isod.
  • Darparwyd gwybodaeth i staff a phobl ifanc am weithdy herio bwlio a gwasanaethau gwrth-fwlio, adnoddau lles, gwybodaeth ymgynghori Llywodraeth Cymru a chodwyd ymwybyddiaeth o adnoddau Herio Bwlio: Hawliau, Parch, Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru.

Mae’r canfyddiadau hyn wrthi’n cael eu rhannu o fewn y Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid. 

Parhaus

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Ffrindiau a theulu sy’n gwneud i chi deimlo'n fwyaf hapus.

Sefydlu gweithdai iechyd emosiynol i gynnwys teuluoedd.

Parhaus

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Bwlio sy’n cyfrannu at i chi deimlo’n fwyaf anhapus.

Dyluniwyd ein harolwg sir gyfan nesaf i werthuso beth sy'n gweithio'n dda, a sut y gallwn herio bwlio ymhellach.

Arolwg newydd yn cael ei lansio ym mis Mai 2025.

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Ar hyn o bryd rydych chi'n cael y rhan fwyaf o’ch cymorth gan rieni.

Sefydlu gweithgor i ddatblygu adnoddau i rieni eu defnyddio i atgyfnerthu ymyriadau a gynigir gan ein staff.

Parhaus

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Byddech chi'n gwneud defnydd o gymorth pe bai ar gael i chi.

Hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws ysgolion a'r lleoliadau cymunedol.

Rydym wedi dylunio:

Linktree cefnogaeth i godi ymwybyddiaeth o wasanaethau iechyd emosiynol yn yr ardal.

Creu sesiwn galw heibio mynediad agored yn ein Hwb Ieuenctid Bytholwyrdd.

Cynnal gweithdai sydd ar gael yn ein canolfannau ieuenctid yn uniongyrchol.

Defnyddio ein bws ieuenctid symudol i ymweld ag ysgolion i hyrwyddo gwasanaethau yn ystod eich amseroedd egwyl.

Parhaus (gwelwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae sesiynau a chefnogaeth ar gael).

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Byddai’n well gennych gael cefnogaeth yn bersonol gan amlaf ac roeddech chi’n llai tebygol o fod eisiau cefnogaeth mewn grŵp.

Ail-alinio ein cyllid i gyflogi gweithwyr ieuenctid ychwanegol i gynnig cymorth wyneb yn wyneb.

Hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws ysgolion a'r gymuned gyda phresenoldeb cymorth ieuenctid mewn ysgolion a gyda allgymorth yn y gymuned.

Sefydlu gweithgor gyda'n Cyngor Ieuenctid i archwilio cymorth cyfoed i gyfoed.

Parhaus (gwelwch ein cyfryngau cymdeithasol i weld pryd mae sesiynau a chefnogaeth ar gael).

Mai-Rhagfyr 2024

Arolwg Eich Llais – Tymor yr Haf 2024

Yr ofn o gael eich barnu oedd y prif beth a fyddai'n eich atal rhag cael cefnogaeth.

Rydym yn hyrwyddo ein gwasanaethau cymorth ymhellach ar draws y gymuned gyda phresenoldeb cymorth ieuenctid ac allgymorth yn y gymuned, gan fynd i’r afael â’r pryder a’r ofn ynghylch cael eich barnu.

Rhoi’r dasg i'n Golygyddion Ifanc ddatblygu posteri i hyrwyddo gwasanaethau cymorth gan gynnwys ein gwasanaeth cwnsela.

Ailddatblygu ein sgyrsbot y gellir ei ddefnyddio i siarad yn uniongyrchol â gweithiwr ieuenctid unrhyw ddiwrnod o'r wythnos rhwng 10am a 5pm.

Parhaus

 

 

Chwilio A i Y

Back to top