Dechrau’n Deg Sarn

Mae Dechrau'n Deg Sarn yn hyb yng nghanol y gymuned ac mae gweithwyr proffesiynol eraill hefyd yn gweithio oddi yno.

Mae gan yr adeilad diroedd helaeth o’i gwmpas, sy’n rhoi digon o le i blant archwilio a mwynhau chwarae awyr agored, gan gynnwys polytunnel mawr a all galluogi plant i fod yn arddwyr hyderus trwy brofiadau tyfu ymarferol.   

"Gallaf ddweud yn onest bod Dechrau'n Deg wedi rhagori ar ein holl ddisgwyliadau. Mae'r merched yn anhygoel wrth eu gwaith ac mae’n amlwg iawn eu bod nhw i gyd yn caru’r plant a gofalu amdanyn nhw."

Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.

Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.

Datganiad Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.

Cysylltu

Cyfeiriad: Dechrau'n Deg Sarn, Heol Canola, Sarn, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9UQ
Ffôn: 01656 815788
Cyfeiriad ebost: fssarnadmin@bridgend.gov.uk
Oriau Agor 1: Bore: 9am - 11.30am
Oriau Agor 2: Prynhawn 12.30pm - 3pm
Cafn chwarae dŵr
Gêm paru lliwiau
Ardal chwarae traeth
Ardal chwarae natur

Cwrdd â’r tîm

Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.

Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau. 

Sam - Gweithiwr Gofal Plant
Sam - Gweithiwr Gofal Plant
Sara - Gweithiwr Gofal Plant
Sara - Gweithiwr Gofal Plant
Harriet - Gweithiwr Gofal Plant
Harriet - Gweithiwr Gofal Plant
Leanna - Gweithiwr Gofal Plant
Leanna - Gweithiwr Gofal Plant
Emma - Gweithiwr Gofal Plant
Emma - Gweithiwr Gofal Plant
"Mae cael ffydd mewn pobl eraill i ofalu am eich plant yn un o'r pethau anoddaf mae rhiant yn ei wneud, ac fe roioch chi’r rhodd fwyaf oll i ni. Tawelwch meddwl llwyr, gan wybod ei bod hi'n cael ei thrysori a’i c yn derbyn gofal gwych pob dydd."

Chwilio A i Y

Back to top