Dechrau'n Deg Afon y Felin
Mae Dechrau'n Deg Afon y Felin wedi'i leoli ar safle’r ysgol ac mae'n gweithredu o adeilad pwrpasol dros dro sydd wedi'i gynllunio i gefnogi dysgu a datblygiad plant ifanc.
Mae'r lleoliad yn elwa o fynediad uniongyrchol i fannau awyr agored, gan ganiatáu i blant fwynhau awyr iach, chwarae llesol a phrofiadau ym myd natur fel rhan o'u trefn ddyddiol.
Mae'r amgylchedd yn cynnig lle tawel a chroesawgar lle mae plant yn teimlo'n ddiogel, yn cael eu cefnogi, ac yn barod i ddysgu.
"Rydych chi i gyd wedi bod mor gefnogol ac mae'r gwaith rydych chi'n ei wneud yn hollol anhygoel. Mae dysgu a lleferydd fy mhlentyn yn wych diolch i ddysgu gyda chi i gyd."
Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.
Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.
Cyswllt
Datganiad Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.
Cwrdd â’r tîm
Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.
Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau.
"Diolch yn fawr iawn i chi i gyd am gefnogi fy mhlentyn yn ei haddysg gynnar a'i helpu i ffynnu. Allen ni ddim fod wedi gwneud hynny hebddo chi."
Gweithredu dros Blant
Mae ein cylch chwarae yn falch o fod yn rhan o Gweithredu Dros Blant a chael ei gomisiynu gan yr awdurdod lleol i ddarparu ein gwasanaeth cylch chwarae.
Mae bod yn rhan o elusen genedlaethol yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i helpu a chefnogi plant a theuluoedd ein cymuned cylch chwarae ar ben y cynnig gofal plant.