Dechrau'n Deg Caerau

Yn Dechrau'n Deg Caerau rydyn ni’n cydnabod hawl y plentyn i chwarae. Ein nod yw rhoi mynediad at brofiadau chwarae cyfoethog ac ysgogol wrth i ni gydnabod pwysigrwydd hyn i ddatblygiad iach, lles a'r gymdeithas y maent yn byw ynddi.

Ein nod yw darparu cyfleoedd ar gyfer herio ac archwilio, dan do ac yn yr awyr agored, gan greu cydbwysedd rhwng risg a'r manteision.

Rydyn ni’n annog plant i arwain eu chwarae a'u dysgu eu hunain, i wneud dewisiadau annibynnol ac i gael ymdeimlad o berchnogaeth a grymuso trwy eu profiadau chwarae.

"Diolch i'r merched i gyd yn Dechrau'n Deg, rydych chi i gyd wedi bod yn anhygoel gyda fy mhlentyn. Fe gymerodd sbel iddo ymgartrefu, ond roedd wrth ei fodd yn y diwedd gyda chi ferched ac alla i ddim diolch digon i chi."

Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.

Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.

Datganiad Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.

Cyswllt

Cyfeiriad: Dechrau'n Deg Caerau, Ysgol Gynradd Caerau, Library Road, Maesteg
Oriau Agor 1: Bore: 9am - 11.30am
Oriau Agor 2: Prynhawn: 12.30pm - 3pm
Plentyn yn chwarae gyda dŵr a rhwydi
Plentyn yn paentio
Plentyn yn chwarae gyda theganau anifeiliaid mewn dŵr
Teganau deinosor

Cwrdd â’r tîm

Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.

Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau.

Tracy – Dirprwy Arweinydd Chwarae Gofal Plant
Tracy – Dirprwy Arweinydd Chwarae Gofal Plant
Carrie – Uwch Arweinydd Chwarae Gofal Plant
Carrie – Uwch Arweinydd Chwarae Gofal Plant
Kirsty – Gweithiwr Gofal Plant
Kirsty – Gweithiwr Gofal Plant
"Mae hi wedi caru pob eiliad o Dechrau'n Deg yn fawr iawn. Diolch yn fawr i chi i gyd am bopeth rydych chi wedi'i wneud i'w helpu i dyfu a dysgu."
Action for Children logo

Gweithredu dros Blant

Mae ein cylch chwarae yn falch o fod yn rhan o Gweithredu Dros Blant a chael ei gomisiynu gan yr awdurdod lleol i ddarparu ein gwasanaeth cylch chwarae.

Mae bod yn rhan o elusen genedlaethol yn golygu ein bod mewn sefyllfa unigryw i helpu a chefnogi plant a theuluoedd ein cymuned cylch chwarae ar ben y cynnig gofal plant.

Chwilio A i Y

Back to top