Dechrau'n Deg Cwm Ogwr

Mae Dechrau'n Deg Cwm Ogwr wedi'i leoli yn yr ysgol ac mae golygfeydd hardd o’i gwmpas.

Mae gan y lleoliad ei fynedfa bwrpasol ei hun, gan sicrhau mynediad diogel i blant a theuluoedd.

Gyda bryniau a thirweddau naturiol prydferth gerllaw, mae'r lleoliad yn cynnig  amgylchedd tawel sy’n ysbrydoli plant ifanc. 

Mae'r golygfeydd o'i amgylch yn cefnogi chwarae awyr agored a dysgu wedi'i ysbrydoli gan natur, gan helpu plant i gysylltu â'r byd o'u cwmpas wrth ddatblygu sgiliau allweddol mewn lleoliad diogel a chefnogol.  

Mae sesiynau hefyd yn cael eu cynnig drwy gyfrwng y Gymraeg, gan gefnogi plant i ddatblygu sgiliau dwyieithog cynnar mewn ffordd naturiol a chefnogol.  

"Mae gan ein merch fach obsesiwn â’r grŵp chwarae. Mae wastad yn teimlo ei bod yn cael croeso ac yn hapus, ac mae’n cael gofal a chymorth da iawn. Daeth fy mhlentyn adref un diwrnod a gofyn am playdough gliter pinc, ac fe wnaeth y staff wireddu ei dymuniad y diwrnod nesaf!"

Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.

Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.

Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.

Datganiad Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.

Cysylltu

Cyfeiriad: Dechrau'n Deg Cwm Ogwr, Ysgol Gynradd Cwm Ogwr, Aber Road, Cwm Ogwr, CF32 7AJ
Ffôn: 01656 815051
Oriau Agor 1: Bore: 9am - 11.30am
Oriau Agor 2: Prynhawn: 12.30pm - 3pm
Teddy bears picnic
Sensory tub
Blocks and foam game

Cwrdd â’r tîm

Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.

Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.

Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau. 

Nadine - Uwch Weithiwr Gofal Plant
Nadine - Uwch Weithiwr Gofal Plant
Chris - Gweithiwr Gofal Plant
Chris - Gweithiwr Gofal Plant
Sasha - Gweithiwr Gofal Plant
Sasha - Gweithiwr Gofal Plant
Anna - Gweithiwr Gofal Plant
Anna - Gweithiwr Gofal Plant
"Mae ganddyn nhw gymaint o weithgareddau i'w gwneud, ac mae e bob amser yn llawn cyffro, ac os oes ganddo ddiddordeb newydd mae'r staff yn creu ffordd o wneud iddo ddigwydd. Rwy'n cael diweddariadau, yn enwedig os yw fy mhlentyn yn anniddig ar ôl cael ei ollwng. Mae'r staff yn codi’i galon yn gyflym ac yn anfon lluniau ataf i dawelu fy meddwl."

Chwilio A i Y

Back to top