Dechrau'n Deg Nant-y-moel
Mae Dechrau'n Deg Nant-y-moel yng nghanol y pentref yn neuadd gymunedol MEM.
Mae gan yr adeilad olygfeydd hyfryd o'r mynyddoedd cyfagos, gan ddarparu amgylchedd croesawgar ac ysbrydoledig i blant ddysgu a chwarae.
"Dechrau'n Deg oedd y peth gorau i ddigwydd i'n cwm a fy mhlentyn. Mae wir wedi helpu datblygiad a sgiliau cymdeithasol fy mhlentyn."
Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.
Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.
Datganiad Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.
Cysylltu
Cwrdd â’r tîm
Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.
Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau.
"Mae fy mhlentyn wedi dwlu ar fynd i Dechrau'n Deg Nant-y-moel, mae wedi bod yn wych iddi wrth wneud ffrindiau a chymdeithasu. Mae'r staff wedi bod yn anhygoel gyda hi ac wedi rhoi cymaint o brofiadau newydd iddi."