Dechrau'n Deg Plasnewydd
Mae Dechrau'n Deg Plasnewydd wedi'i leoli yn Ysgol Gynradd Plasnewydd yn agos at ganol y dref.
Mae gan y lleoliad ei fynedfa bwrpasol ei hun, gan sicrhau mynediad diogel i blant a theuluoedd.
Mae'r lleoliad yn cynnig amgylchedd cynnes, croesawgar lle mae plant yn cael eu cefnogi i ddysgu, chwarae a datblygu ar eu cyflymder eu hunain a dod yn gyfarwydd ag amgylchedd addysgol sy'n helpu i sicrhau pontio llyfn wrth iddynt dyfu.
"Rydw i mor hapus bod fy mhlentyn wedi cael y cyfle i ddod i Blasnewydd, ac ers iddi ddechrau mynd yno, mae hi wedi datblygu’n fawr a’i lleferydd wedi gwella. Mae ganddi fwy o hyder hefyd; fyddai hi byth yn gadael fy ochr cyn dechrau yn y grŵp chwarae, ond nawr mae hi'n hapus bod gyda phobl a phlant eraill."
Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.
Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.
Cysylltu
Datganiad Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.
Cwrdd â’r tîm
Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.
Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau.
"Mae'r staff yn gynnes a chroesawgar iawn. Mae fy mhlentyn yn dwlu ar fynd yno, ac mae wedi gwneud lot o ffrindiau. Rwyf wrth fy modd yn gweld y gwahanol weithgareddau bob bore. Mae'r gwasanaeth wedi bod yn rhagorol, gallwch chi weld bod pawb wedi adeiladu perthynas wych gyda'r plant."