Dechrau'n Deg y Garth
Mae Dechrau'n Deg y Garth wedi'i gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) a gall ddarparu ar gyfer hyd at 12 o blant.
Mae gennym ofod dan do clyd sy'n galluogi plant i deimlo'n gartrefol. Yn ein hardal awyr agored gall y plant archwilio a chwarae'n rhydd.
"Ers cychwyn yn Dechrau'n Deg mae fy mhlentyn wedi datblygu’n aruthrol. Rydyn ni'n dwlu ar y themâu, ac mae'r staff yn ofalgar ac yn gyfeillgar."
Yn ein lleoliadau Dechrau'n Deg, rydym yn darparu gofal plant rhan-amser wedi'i ariannu i blant 2-3 oed sy'n gymwys.
Maent yn gallu cael mynediad at ddarpariaeth o ansawdd uchel i gefnogi dysgu a datblygiad trwy chwarae dan arweiniad plant, mewn amgylchedd diogel a chroesawgar.
Wedi'i ariannu gan Lywodraeth Cymru i gynnig 12.5 awr o ofal plant o ddydd Llun i ddydd Gwener yn unig.
Datganiad Gweledigaeth
Ein gweledigaeth yw creu amgylcheddau tawel a meithringar sy’n canolbwyntio ar y plentyn lle mae lles, natur a pherthnasoedd ystyrlon wrth wraidd ein hymarfer, a lle mae partneriaethau cryf gyda theuluoedd a'r gymuned ehangach yn sicrhau bod pob plentyn yn cael dechrau teg go iawn i’w fywyd.
Cysylltu
Cwrdd â’r tîm
Mae ein staff i gyd wedi'u hyfforddi yn y sector blynyddoedd cynnar. Maent wedi'u hyfforddi i safon uchel i gefnogi dysgu a datblygiad plant.
Maent yn mynychu hyfforddiant rheolaidd i sicrhau bod eu gwybodaeth yn gyfredol o ran cymorth cyntaf, diogelu, hylendid bwyd ac ymchwil sy'n seiliedig ar dystiolaeth.
Mae'r tîm yn angerddol dros wneud gwahaniaeth yn ystod amser pob plentyn yn Dechrau'n Deg. Maent yn ymroddedig i'w helpu i ddysgu a datblygu trwy chwarae a gweithgareddau.
"Roedd fy merch wrth ei bodd yn y cylch chwarae. Roedd hi’n edrych ymlaen bob dydd a byddai'n siarad am ei diwrnod. Rwyf wrth fy modd â'r gwahanol weithgareddau a’r diwrnodau thema. Fe wnaeth e wir helpu i adeiladu ei hyder."