Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Dod ag Eiddo Gwag yn ôl i Ddefnydd
Sut Rydym yn Defnyddio Gorchmynion Prynu Gorfodol
Mae'r cyngor wedi ymrwymo i leihau nifer yr eiddo gwag hirdymor ar draws y fwrdeistref sirol a dod â chartrefi yn ôl i ddefnydd er budd ein cymunedau.
Fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r cyngor wedi llwyddo i sicrhau Gorchymyn Prynu Gorfodol (GPG) ar gyfer eiddo sy’n wag yn y tymor hir. Rydym yn cydnabod y gallai hyn ysgogi cwestiynau gan drigolion ynghylch pam mae'r eiddo penodol hwn wedi'i flaenoriaethu a pham nad yw camau tebyg yn cael eu cymryd ar eiddo eraill.
Nid yw Gorchymyn Prynu Gorfodol yn broses gyflym na syml. Cyn y gellir gwneud Gorchymyn, rhaid i'r cyngor gynnal ymchwiliadau helaeth, casglu tystiolaeth, ymgysylltu â pherchnogion ac archwilio'r holl ddewisiadau amgen rhesymol. Os yw'r cyngor yn penderfynu mynd ar drywydd GPG, mae gan bartïon yr effeithir arnynt yr hawl i wrthwynebu ac yna mae'r achos yn destun craffu annibynnol.
Nid y cyngor sydd â'r penderfyniad terfynol. Rhaid i Weinidogion Cymru benderfynu a ddylid cadarnhau'r Gorchymyn a gallant ei wrthod os nad ydynt yn fodlon bod achos budd cyhoeddus sy’n ddigon cryf. Mae hyn yn golygu, hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o waith, nid oes unrhyw warant y bydd GPG yn llwyddo.
Mae'r broses felly yn ddwys o ran adnoddau, yn aml yn cymryd sawl blwyddyn ac yn gofyn am ymrwymiad sylweddol o ran swyddogion, yn gyfreithiol ac yn ariannol. Yn yr achos hwn, cymerodd y broses oddeutu tair blynedd i'w chwblhau a dim ond trwy adnoddau swyddogion pwrpasol a chyllid Llywodraeth Cymru y gwnaed yn bosibl.
Am y rhesymau hyn, nid yw'n ymarferol nac yn briodol mynd ar drywydd GPG ar gyfer pob eiddo gwag.
Mae Strategaeth Cartrefi Gwag y cyngor yn nodi sut rydym yn nodi, asesu a blaenoriaethu eiddo gwag sydd angen ymyrraeth.
Mae pob achos yn cael ei ystyried ar ei rinweddau ei hun a'i asesu yn erbyn ystod o ffactorau, gan gynnwys:
- Ers faint mae'r eiddo wedi bod yn wag.
- Cyflwr yr adeilad.
- Yr effaith ar drigolion cyfagos a'r gymuned ehangach.
- Y tebygolrwydd o gael y perchennog i weithredu’n wirfoddol.
- Cyfleoedd ar gyfer cyllid, adfywio neu ailddatblygu.
- Y costau, y risgiau a'r adnoddau sy'n gysylltiedig ag ymyrraeth.
- Y tebygolrwydd o gyflawni canlyniad llwyddiannus.
Mae'r dull hwn sy'n seiliedig ar risg yn helpu i sicrhau bod adnoddau cyfyngedig yn cael eu targedu lle gallant gael yr effaith fwyaf a darparu'r budd mwyaf i gymunedau lleol.
Er bod llawer o eiddo gwag ar draws y fwrdeistref sirol, nid yw pob eiddo yn addas ar gyfer prynu gorfodol.
Cyn symud ymlaen â GPG, rhaid i'r Cyngor fod yn fodlon:
- Bod ymdrechion rhesymol wedi'u gwneud i ymgysylltu â'r perchennog.
- Bod opsiynau eraill wedi'u harchwilio.
- Bod budd cyhoeddus clir o ymyrryd.
- Bod dod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd yn realistig.
- Bod defnyddio prynu gorfodol yn rhesymol, yn gymesur ac yn gyfiawn.
Roedd yr eiddo a ddewiswyd yn bodloni'r meini prawf hyn ac yn cyflwyno cyfle clir i sicrhau canlyniadau cadarnhaol i'r gymuned leol.
Efallai y bydd trigolion yn gofyn pam mae camau yn cael eu cymryd mewn un dref neu gymuned yn hytrach nag un arall.
Nid yw ein dull yn seiliedig ar leoliad yn unig. Yn hytrach, rydym yn asesu eiddo unigol yn erbyn blaenoriaethau strategol, yr adnoddau sydd ar gael a'r tebygolrwydd o gyflawni canlyniad llwyddiannus. Mae cyfleoedd i fynd ar drywydd camau gorfodi, gan gynnwys GPGau, yn aml yn dibynnu ar ffactorau fel amgylchiadau perchnogaeth, cyflwr eiddo, argaeledd cyllid ac ystyriaethau cyfreithiol.
O ganlyniad, gall gwahanol gymunedau weld gwahanol ymyriadau ar wahanol adegau.
Edrych tua’r Dyfodol
Gall eiddo gwag hirdymor gael effaith sylweddol ar gymdogaethau, cyflenwad tai lleol a hyder cymunedol. Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi ymrwymo i gymryd dull mwy rhagweithiol ac uchelgeisiol o fynd i'r afael ag eiddo gwag a'u dychwelyd i ddefnydd.
Er bod pwerau gorfodi yn parhau i fod yn offeryn pwysig, ein blaenoriaeth gyntaf bob amser yw gweithio ar y cyd â pherchnogion i sicrhau canlyniad cadarnhaol. Fodd bynnag, lle mae eiddo yn parhau i fod yn wag am gyfnodau hir ac mae ymdrechion i geisio gweithredu gwirfoddol wedi bod yn aflwyddiannus, bydd y Cyngor yn ystyried defnyddio'r holl bwerau sydd ar gael iddo, gan gynnwys prynu gorfodol.
Bydd Gorchmynion Prynu Gorfodol yn parhau i gael eu defnyddio'n ddetholus a dim ond lle bo hynny'n cael eu cyfiawnhau, ond mae'r Cyngor yn glir na ellir caniatáu i eiddo gwag hirdymor aros yn segur am gyfnod amhenodol pan fydd cyfleoedd i'w dychwelyd i ddefnydd cynhyrchiol, adfywio cymunedau a helpu i fynd i'r afael ag anghenion tai lleol.
Na. Mae prynu gorfodol yn broses hir, gymhleth ac yn ddwys o ran adnoddau, briodol mewn rhai amgylchiadau a lle mae budd cyhoeddus clir yn unig.
Mae eiddo yn cael eu hasesu yn unol â Strategaeth Cartrefi Gwag y Cyngor a'u blaenoriaethu yn seiliedig ar ffactorau fel risg, effaith ar y gymuned, cyflawnadwyedd ac adnoddau sydd ar gael.
Bydd y Cyngor yn parhau i ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael ar gyfer dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gan gynnwys defnyddio pwerau prynu gorfodol lle bo hynny'n briodol ac yn gyfiawn. Fodd bynnag, rhaid asesu pob achos yn unigol ac nid oes unrhyw warant y bydd GPG yn addas neu'n llwyddiannus.
Gallant. Mae gwybodaeth gan drigolion yn helpu'r Cyngor i ddeall effaith eiddo gwag ar gymunedau lleol a gall helpu i lywio blaenoriaethau ac ymyriadau yn y dyfodol.
Dylech.
Rydym yn deall y gall eiddo fynd yn wag am sawl rheswm, gan gynnwys etifeddiaeth, anawsterau ariannol, materion iechyd, amgylchiadau teuluol neu ansicrwydd am ddyfodol yr eiddo.
Rydym bob amser yn ffafrio gweithio yn adeiladol gyda pherchnogion i ddod ag eiddo yn ôl i ddefnydd lle bynnag y bo modd. Mae ymgysylltu’n gynnar yn aml yn helpu i nodi atebion a chefnogaeth ymarferol a allai atal yr angen am gamau gorfodi ffurfiol.
Os ydych chi'n berchen ar eiddo gwag ac yn ansicr o'ch opsiynau, rydym yn eich annog i gysylltu â'n Swyddog Eiddo Gwag. Gallwn drafod eich amgylchiadau, rhoi cyngor i chi ac archwilio atebion posibl i helpu i ddod â'r eiddo yn ôl i ddefnydd.
Lle bo hynny'n briodol, gallwn hefyd drefnu cyfarfod personol i drafod yr eiddo a nodi ffordd ymlaen.
Adrodd am eiddo gwag
Eiddo preswyl sector preifat sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yw eiddo gwag.