Argyfwng Natur

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi datgan argyfwng natur, gan dynnu sylw at yr angen brys i fynd i'r afael â dirywiad brawychus mewn bioamrywiaeth ledled y fwrdeistref sirol.  

Mae'r penderfyniad hwn yn ategu datganiad Argyfwng Hinsawdd y cyngor a wnaed ym mis Mehefin 2020, ac yn cydnabod y berthynas annatod rhwng newid yn yr hinsawdd a cholledion ym myd natur.  

Mae newid yn yr hinsawdd yn elfen fawr yn nirywiad bioamrywiaeth gan fod cynnydd yn y tymheredd a newidiadau mewn patrymau tywydd yn parhau i beri dirywiad mewn cynefinoedd naturiol, ac mae colli bioamrywiaeth yn gwanhau ein gallu i liniaru ac addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd.  Trwy gydnabod bod y bygythiadau brys hyn yn gysylltiedig, nod y cyngor yw rhoi camau pendant ar waith i ddiogelu ac adfer ecosystemau'r fwrdeistref sirol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.  

Mae'r datganiad hwn yn cyd-fynd â datganiad Argyfwng Natur Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin 2021 ac mae'n adlewyrchu Dyletswydd gyfreithiol y cyngor o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus gynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a hyrwyddo gwytnwch ecosystemau.  Mae'r penderfyniad hwn hefyd yn adeiladu ar ymrwymiad CBSP i fyd natur a ddangoswyd trwy lofnodi Datganiad Caeredin ym mis Gorffennaf 2022.  

Mae Datganiad Caeredin yn ddatganiad byd-eang o fwriad a ddatblygwyd gan lywodraethau, dinasoedd ac awdurdodau lleol ledled y byd.  Mae'n galw am fwy o gydnabyddiaeth o'r rôl hanfodol mae llywodraethau lleol a rhanbarthol yn ei chwarae o ran cyflawni'r fframwaith bioamrywiaeth byd-eang ôl-2020. Trwy lofnodi Datganiad Caeredin, addawodd CBSP i ymgorffori bioamrywiaeth yn y broses gwneud penderfyniadau, cryfhau partneriaethau a rhoi camau uchelgeisiol, lleol ar waith i adfer natur.

Mae ymdrechion CBSP yn cael eu llywio gan Gynllun Dyletswydd Bioamrywiaeth y cyngor, strategaeth sy'n cael ei hadolygu a'i diwygio’n annibynnol bob tair blynedd. Mae'r Cynllun yn amlinellu camau gweithredu allweddol i'r cyngor i warchod a gwella bioamrywiaeth a chefnogi adferiad natur ledled y fwrdeistref sirol.

Yn ogystal, mae Cynllun Gweithredu Adfer Natur Lleol (CGANLl) Pen-y-bont ar Ogwr yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd a bydd yn ategu'r ymdrechion hyn ymhellach. Bydd y cynllun yn nodi blaenoriaethau lleol a chamau gweithredu cydgysylltiedig i ddiogelu cynefinoedd, gwarchod rhywogaethau, a helpu i atal a gwrthdroi colledion mewn bioamrywiaeth ledled y fwrdeistref sirol.

Mae CBSP yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio mewn partneriaeth â chymunedau, sefydliadau a rhanddeiliaid i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a diogelu'r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. 

Chwilio A i Y

Back to top