Di-fawn
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gweithredu arfer di-fawn ar draws ei holl weithrediadau sy'n ymwneud â phridd, compost a chyfryngau tyfu.
Mae hyn yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i adfer natur, ac yn cyfrannu at ymdrechion ehangach y DU a rhyngwladol i ddiogelu cynefinoedd mawndiroedd hanfodol.
Mae mawndiroedd yn chwarae rhan hanfodol mewn storio carbon, lliniaru llifogydd, diogelu bioamrywiaeth, ac ansawdd dŵr. Mae echdynnu a defnyddio mawn yn cyfrannu'n sylweddol at allyriadau nwyon tŷ gwydr a diraddiad yr ecosystemau unigryw hyn.
Trwy bontio i ddewisiadau amgen di-fawn, mae'r Cyngor yn:
- Cydymffurfio â deddfwriaeth a pholisi Llywodraeth Cymru a chenedlaethol, gan gynnwys gwaharddiad Llywodraeth y DU ar werthu compost sy’n seiliedig ar fawn i arddwyr amatur (o 2024 ymlaen) a chyfyngiadau pellach disgwyliedig ar ddefnydd proffesiynol.
- Cefnogi arferion rheoli tir cynaliadwy yn unol â nodau Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, a Chynllun Gweithredu Adfer Natur Cymru.
- Hyrwyddo bioamrywiaeth a gwytnwch hinsawdd ar draws y fwrdeistref sirol.
Mae'r arfer sefydledig hwn yn berthnasol i'r holl dir a pharciau a reolir gan y Cyngor, caffael cynhyrchion garddwriaethol, a phrosiectau partneriaeth gydag ysgolion, grwpiau cymunedol, a chontractwyr.
Anogir trigolion, busnesau a sefydliadau cymunedol i ymuno â ni wrth ddewis atebion garddio a thirlunio di-fawn.
Gyda'n gilydd, gallwn ddiogelu ein hamgylchedd, mynd i'r afael â newid hinsawdd, a sicrhau dyfodol gwyrddach i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a thu hwnt.