Newid Hinsawdd a Fi

Mae Llywodraeth Cymru wedi gosod targed ar gyfer Cymru Sero Net erbyn 2050. Mae'r cyngor wedi ymrwymo i weithio gyda'n cymunedau i gyflawni hyn.

Mae cymryd camau i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr a lliniaru newid yn yr hinsawdd yn gyfrifoldeb i bob un ohonom ac os gallwn ni i gyd weithredu, hyd yn oed ychydig, bydd hynny'n gwneud gwahaniaeth.

Mae'r strategaeth ar gyfer Sero Net yn canolbwyntio ar 7 thema allweddol:

  • Yr ynni a ddefnyddiwn: Cynhyrchu trydan a gwres
  • Y ffyrdd rydyn ni'n symud: Teithio a thrafnidiaeth
  • Y llefydd rydyn ni'n byw: Adeiladau preswyl
  • Y diwydiannau a'r adeiladau rydyn ni'n gweithio ynddynt: Diwydiant a busnes
  • Y ffermydd sy'n ein bwydo: Amaethyddiaeth
  • Y tir rydyn ni'n byw ynddo: Defnydd tir, newid defnydd tir a choedwigaeth
  • Y pethau rydyn ni'n berchen arnynt a’u gadael i fynd: Gwastraff/economi gylchol

Mae yna gamau y gallwn ni i gyd eu cymryd dan y themâu hyn i wneud y gwahaniaeth hwnnw a gweithio tuag at ein targed Sero Net.

Graffig - Newid yn yr Hinsawdd a Fi

Mae'n bwysig ein bod yn gwybod ein heffaith ein hunain ar allyriadau nwyon tŷ gwydr fel y gallwn nodi a deall rhai camau y gallwn eu cymryd.

Mae amryw o offer ar gael i'ch helpu i gyfrifo eich ôl troed carbon.

Gan ddefnyddio'r Cyfrifiannell Ôl Troed WWF gallwch ateb ychydig o gwestiynau syml i ddarganfod eich ôl troed.

Cyrsiau Llythrennedd Carbon

Mae'r cyngor wedi ymrwymo i gefnogi trigolion i ddeall beth allant ei wneud i helpu'r fwrdeistref sirol i gyflawni sero net a lleihau ein heffaith ar newid yn yr hinsawdd.

Gellir cyflwyno cyrsiau llythrennedd carbon i helpu trigolion i ennill y wybodaeth a'r ddealltwriaeth hon.

Defnydd o ynni gartref

Mae tua 22% o allyriadau carbon yn dod o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio i bweru a gwresogi ein cartrefi.

Mae rhai o'r allyriadau hyn yn uniongyrchol – trwy losgi nwy mewn boeleri – ac mae rhai yn anuniongyrchol – yr allyriadau a ryddhawyd wrth gynhyrchu a dosbarthu trydan cyn iddo gyrraedd ein cartrefi.

Gallwn leihau allyriadau o'n defnydd o ynni mewn dwy brif ffordd:

  • Lleihau faint o ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio
  • Lleihau'r allyriadau a ryddhawyd wrth gynhyrchu'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio

Mae yna gamau syml y gallwch eu cymryd i leihau eich defnydd o ynni yn eich cartref.

Mae rhai o'r rhain am ddim ac mae rhai yn costio arian, ond y newyddion da yw bod cymorth ar gael i helpu.

Os ydych chi am wneud newidiadau i effeithlonrwydd ynni eich cartref, y lle cyntaf i ddechrau yw trwy wybod y sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni (TPY) ar gyfer eich cartref.

Bydd eich TPY yn amlinellu pa mor ynni-effeithlon yw eich cartref ac yn awgrymu rhai newidiadau y gallwch eu gwneud i wella.

Camau gweithredu am ddim a fydd yn lleihau eich defnydd o ynni:

  • Trowch y thermostat i lawr radd
  • Caewch eich llenni yn y nos
  • Tynnwch y plwg ar offer pan nad ydyn nhw'n cael eu defnyddio
  • Peidiwch â gorlenwi’r tegell – berwch y dŵr sydd ei angen arnoch.
  • Diffoddwch oleuadau pan nad ydych chi mewn ystafell a defnyddiwch olau naturiol cymaint ag y gallwch
  • Dadmerwch fwyd dros nos yn hytrach nag yn y microdon

Camau gweithredu rhad a fydd yn lleihau eich defnydd o ynni:

  • Newid i fylbiau golau LED
  • Inswleiddio’r atig
  • Rhowch ddeunydd atal drafftiau ar loriau, drysau a ffenestri
  • Falfiau rheiddiadur thermostatig
  • Thermostatau clyfar
  • Gosod mesuryddion deallus er mwyn monitro eich defnydd

Camau gweithredu mwy a fydd yn lleihau eich defnydd o ynni:

  • Offer ynni-effeithlon
  • Ffenestri gwydr dwbl/triphlyg
  • Insiwleiddio waliau mewnol/allanol a/neu waliau ceudod.
  • Inswleiddio llawr
  • Rheiddiaduron a system boeler ynni-effeithlon

Mae enghreifftiau pellach o bethau y gallwch eu gwneud i'w gweld ar wefan yr Ymddiriedolaeth Arbed Ynni.

Yn gyffredinol, gall llawer o'r allyriadau o'r ynni rydyn ni'n ei ddefnyddio yn ein cartrefi fod y tu hwnt i'n rheolaeth. Ond mae yna bethau y gallwn eu gwneud o hyd i leihau allyriadau a chymryd camau i orfodi cwmnïau ynni i wneud mwy i gynhyrchu ynni carbon isel.

Gweithredoedd llai:

  • Newid eich tariff trydan i dariff ynni gwyrdd
  • Newid eich tariff nwy i dariff ynni gwyrdd

Camau gweithredu mwy:

  • Newid eich system wresogi i Bwmp Gwres Aer neu Ddaear (ASHP / GSHP)
  • Gosod paneli ffotofoltäig solar
  • Gosod batris storio

Mae rhai o'r gweithredoedd hyn yn costio arian a gallant fod yn aflonyddgar yn y byrdymor – ni fyddant chwaith yn addas ar gyfer pob math o gartref.

Mae cymorth ar gael i helpu preswylwyr i ddeall beth sy'n iawn iddyn nhw a gwneud y newidiadau hyn.

Rhai o'r cynlluniau cymorth sydd ar gael:

  • ECO4 ac ECO4 Flex
  • Nest
  • Cynllun Inswleiddio Prydain Fawr
  • Cartrefi Gwyrdd Cymru

Teithio a thrafnidiaeth

Mae angen i ni i gyd deithio – i'r gwaith, i'r ysgol, i'r siopau, am hamdden.

Gall sut rydyn ni'n dewis teithio gael effaith fawr ar ein hôl troed allyriadau, fel unigolion a gyda'n gilydd yn y fwrdeistref sirol.

Bydd lleihau allyriadau o'n teithio nid yn unig yn helpu gyda'r targed sero net ond bydd hefyd yn helpu i wella ansawdd aer ac iechyd i bawb.

Ffordd syml o leihau eich allyriadau yw gwneud llai o deithiau mewn car, os gallwch.

Mae defnyddio teithio llesol (cerdded a beicio) i wneud eich teithiau yn lleihau eich allyriadau a gall eich helpu i gadw'n heini ac yn iach.

Os oes gennych daith hirach i'w wneud neu os nad ydych yn gallu teithio gan ddefnyddio teithio llesol, mae dewis trafnidiaeth gyhoeddus yn ffordd dda arall o leihau allyriadau o'ch teithiau.

Mae gan Traveline Cymru wybodaeth gynhwysfawr am amseroedd bysus a llwybrau ledled Cymru.

Os oes angen i chi deithio mewn car, gallwch leihau allyriadau trwy rannu car.

Bydd cerbydau trydan yn lleihau'r allyriadau sy'n gysylltiedig â defnyddio eich cerbyd.

Mae'r cyngor yn cefnogi'n weithredol fabwysiadu cerbydau trydan trwy amrywiol fentrau a datblygiadau seilwaith wedi'u halinio â Strategaeth Cerbydau Trydan.

Rydym yn deall yr anawsterau a all fodoli gyda gwefru cerbydau trydan gartref pan nad oes parcio oddi ar y ffordd na mannau parcio dynodedig.

Rydym yn ymchwilio i opsiynau ac atebion i oresgyn yr anawsterau hyn ac rydym yn trafod ag awdurdodau lleol eraill i ddeall arferion gorau a nodi beth fydd orau i Fwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Amaethyddiaeth a bwyd

Gall y bwyd rydyn ni'n ei fwyta a sut mae rhai bwydydd yn cael eu cynhyrchu gael effaith fawr ar ein hallyriadau carbon.

Mae cynhyrchu cig eidion yn cynhyrchu symiau mawr o allyriadau nwyon tŷ gwydr. Mae'r tir sydd ei angen i gynhyrchu'r porthiant ar gyfer y gwartheg a chynhyrchu'r bwyd hwnnw yn cynhyrchu llawer o allyriadau a gall hefyd arwain at ddatgoedwigo, gan leihau gallu natur i ddal allyriadau trwy atafaelu carbon. Mae hyn yn golygu y gall bwyta llai o gig eidion a llaeth gael effaith gadarnhaol ar eich ôl troed carbon.

Gall cynlluniau fel 'Veganuary' a 'Dydd Llun heb Gig' fod yn ddefnyddiol i'ch helpu i newid eich arferion bwyta i leihau eich allyriadau.

Mae cefnogi cynhyrchwyr lleol yn lleihau milltiroedd teithio eich bwyd, gan leihau allyriadau, a chefnogi'r economi leol.

Ffordd wych arall o leihau milltiroedd trafnidiaeth eich bwyd yw tyfu eich hun!

Mae cael rhandir a thyfu eich bwyd eich hun nid yn unig yn ffordd wych o leihau allyriadau ond hefyd i ddysgu sgiliau newydd, gwneud ffrindiau newydd a mynd allan.

Mae nifer o safleoedd rhandiroedd ar draws Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwastraff a'r economi gylchol

Mae gan bopeth rydyn ni'n ei brynu a'i ddefnyddio allyriadau nwyon tŷ gwydr yn gysylltiedig ag ef.

Mae allyriadau yn cael eu cynhyrchu wrth gynhyrchu a dosbarthu pethau rydyn ni'n eu prynu. Mae rhai pethau wedyn hefyd yn cynhyrchu allyriadau wrth i ni eu defnyddio – fel ceir.

Ac yn olaf, mae allyriadau yn cael eu cynhyrchu pan fyddwn yn eu gwaredu – mae hyn yn cynnwys pan fydd pethau'n cael eu hailgylchu gan fod ailgylchu yn gofyn am ynni.

Y syniad o economi gylchol yw ein bod yn lleihau ein hallyriadau trwy greu llai o bethau 'newydd' a defnyddio llai o adnoddau naturiol y byd, gan greu llai o wastraff. 

Agwedd allweddol ar hyn yw'r Hierarchaeth Gwastraff:

  • Gorau: Atal / lleihau – cadw pethau am gyfnod hirach; cael pethau wedi'u hatgyweirio; peidiwch â phrynu eitemau tafladwy neu untro; prynu llai o becynnu; defnyddio llyfrgelloedd a gwasanaethau llogi
  • Ailddefnyddio – prynu eitemau ail-law neu wedi'u hadnewyddu; ailddefnyddio 'gwastraff' at ddibenion eraill fel potiau iogwrt fel potiau planhigion; rhannu eitemau diangen gyda ffrindiau neu deulu; prynu eitemau y gellir eu hailddefnyddio fel cewynnau
  • Ailgylchu – defnyddio gwasanaeth ailgylchu wythnosol; mynd â hen eitemau i siop elusen neu ganolfan ailgylchu; compost gwastraff organig
  • Adfer – ynni a gynhyrchir drwy losgi neu gompostio gwastraff

Gwaeth:

  • Gwaredu - Tirlenwi

Chwilio A i Y

Back to top