Gwneud cais derbyn i ysgol
Cymerwch olwg ar ddyddiadau agor/cau derbyniadau ysgol a gwneud cais ar-lein am le mewn ysgol.
Mae gennym ni ddyletswydd statudol i, lle y bo modd, addysgu pob plentyn yn yr ysgol y mae ei rieni neu ei ofalwyr wedi ei dewis.
Yn y rhan helaethaf o achosion, mae rhieni'n hapus i ddewis yr ysgol y maen nhw yn ei dalgylch. Fodd bynnag mae’n ofynnol yn gyfreithiol i’r ysgol honno gael ei dewis a’i henwi ar ffurflen 'Derbyn i Ysgol' ac i'r ffurflen honno gael ei dychwelyd erbyn y dyddiad cau. Nid oes sicrwydd y bydd lle ar gael mewn ysgol benodol, hyd yn oed os ydych chi'n byw yn y dalgylch.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yw’r awdurdod derbyn ar gyfer ysgolion cymunedol. Gwneir ceisiadau i ysgolion cyfrwng Cymraeg gan ddefnyddio’r un ffurflenni â’r rhai at ddefnydd ysgolion cyfrwng Saesneg, ac mae’r amserlenni yr un fath. Yn achos ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir, y corff llywodraethu yw awdurdod derbyn yr ysgol.
Derbyn i Ysgolion Gwirfoddol a Gynorthwyir
Corff Llywodraethu’r ysgol yw ei hawdurdod derbyn.
Cysylltwch â'r ysgolion hyn yn uniongyrchol er mwyn edrych ar y meini prawf derbyn:
- Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru yr Archddiacon John Lewis, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Gynradd Gatholig Santes Fair a Sant Padrig, Maesteg
- Ysgol Gynradd Gatholig Sant Robert, Pen-y-bont ar Ogwr
- Ysgol Uwchradd Gatholig yr Archesgob McGrath, Pen-y-bont ar Ogwr
Gwnewch gais ar-lein
Gallwch wneud cais ar-lein nawr am le i'ch plentyn mewn ysgol. Cewch dawelwch meddwl o weld bod eich cais wedi cael ei dderbyn drwy gyfrwng Fy Nghyfrif. Mae’n gyflym ac yn hawdd a dim ond cyfeiriad e-bost sydd ei angen.
Cofrestrwch gyda Fy Nghyfrif heddiw neu fewngofnodi er mwyn cyrchu, cwblhewch a chyflwynwch eich ffurflen gais.
Derbyn i ysgolion uwchradd
Yr amserlen dderbyn ar gyfer disgyblion sy’n symud o ysgol iau/gynradd (Blwyddyn 6) i ysgol uwchradd (Blwyddyn 7) ym mis Medi 2027 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2015 a 31 Awst 2016):
|
Cam Gweithredu |
Dyddiad |
|---|---|
|
Ceisiadau yn agor ar |
Dydd Llun 14 Medi 2026, 10am |
|
Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol |
Dydd Sadwrn 31 Hydref 2026, 4pm |
|
Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle |
Dydd Llun 1 Mawrth 2027 |
|
Y rhieni i hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch derbyn neu wrthod lle a gynigir |
Dydd Llun, 15 Mawrth 2027 |
|
Dyddiad cai i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: |
Dydd Llun, 5 Ebrill 2027, 4pm |
Derbyn i ysgolion babanod, iau a chynradd
Yr amserlen ar gyfer derbyn disgyblion derbyn sy’n dechrau ym mis Medi 2027, neu ddisgyblion sy’n symud o ysgol fabanod (Bl2) i ysgol iau (Bl3) ym mis Medi 2027 (Blwyddyn Derbyn - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2022 a 31 Awst 2023. Ysgol Iau Blwyddyn 3 - Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2019 a 31 Awst 2020):
| Cam Gweithredu | Dyddiad |
|---|---|
| Ceisiadau yn agor ar | Dydd Llun 9 Tachwedd 2026, 10am |
| Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 15 Chwefror 2027, 4pm |
| Hysbysu rhieni/gofalwyr o roi/wrthod lle | Dydd Iau 16 Ebrill 2027 |
| Y rhieni i hysbysu'r awdurdod lleol ynghylch derbyn neu wrthod lle a gynigir. | Dydd Gwener, 30 Ebrill 2027 |
| Dyddiad cau i rieni/gofalwyr gyflwyno apêl: | Dydd Iau 14 Mai 2027, 4pm |
Derbyn i feithrinfeydd
Nid yw’r amserlen ar gyfer derbyn i feithrinfeydd yn cael ei llywodraethu gan y Cod Derbyniadau Ysgolion (2013).Yr amserlen ar gyfer derbyn i lefydd meithrin llawn amser gan ddechrau ym mis Medi 2027 (Plant wedi’u geni rhwng 1 Medi 2023 a 31 Awst 2024):
| Cam gweithredu | Dyddiad |
|---|---|
| Ceisiadau yn agor ar | Dydd Llun 4 Ionawr 2027, 10am |
| Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 2 Ebrill 2027, 4pm |
| Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) | Dydd Gwener 28 Mai 2027 |
Derbyniadau rhan amser i feithrinfeydd
Yr amserlen ar gyfer derbyniadau i leoedd yn y Feithrinfa yn rhan-amser, sy’n cychwyn ym mis Ionawr 2027 neu fis Ebrill 2027 (mis Ionawr 2027 - plant a anwyd rhwng 1 Medi 2023 a 31 Rhagfyr 2023. Mis Ebrill 2027- plant a anwyd rhwng 1 Ionawr 2024 a 31 Mawrth 2024):
| Cam gweithredu | Dyddiad |
|---|---|
| Ceisiadau ar agor | Dydd Llun 5 Ionawr 2026 am 10am |
| Dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau gan yr awdurdod lleol | Dydd Gwener 28 Awst 2026 am 4pm |
| Rhoi gwybod i rieni/gofalwyr am dderbyn/gwrthod lleoedd (dyddiad y cynnig) | Erbyn 30 Hydref 2026 |
Y meini prawf ar gyfer lleoedd ysgolion
Mewn rhannau o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae pwysau am leoedd mewn ysgolion. Os yw nifer y ceisiadau’n fwy na nifer y lleoedd sydd ar gael, byddwn yn defnyddio’r meini prawf ar gyfer hynny i neilltuo lleoedd yn ôl blaenoriaeth. O ganlyniad, efallai na fydd rhai disgyblion yn cael lle yn yr ysgol maent yn ei ffafrio, ac mae hyn yn fwy tebygol os ydynt yn byw y tu allan i ddalgylch yr ysgol.
Darllenwch ein Polisi Derbyn i Ysgolion 2025-26 am fwy o wybodaeth am y meini prawf ar gyfer mwy o geisiadau na nifer y lleoedd sydd ar gael.