O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Fforwm cyllidebau ysgolion
Mae’r fforwm yn cynnwys cynrychiolwyr ysgolion a chynrychiolwyr eraill. Mae’r cynrychiolwyr ysgolion yn cynnwys:
- penaethiaid
- llywodraethwyr
Mae’r cynrychiolwyr eraill yn cynnwys:
- swyddogion awdurdodau lleol
- cynrychiolwyr undebau llafur
- cynghorwyr
Ni ddylai cyfanswm y cynrychiolwyr heb fod o ysgolion fod yn fwy na 25% o gyfanswm aelodaeth y fforwm.
Mae Fforwm Cyllidebau Ysgolion Pen-y-bont ar Ogwr yn cyfarfod deirgwaith y flwyddyn o leiaf, neu unwaith y tymor. Fel rheol mae’n cyfarfod yn unol â’r amserlen ar gyfer pennu cyllideb y cyngor a’r Strategaeth Ariannol Tymor Canolig.
Mae’r fforwm yn ystyried ac yn cyflwyno sylwadau ar ymgynghoriadau perthnasol i’r canlynol:
- newidiadau arfaethedig i’r fformiwla cyllido ysgolion a’i heffaith ariannol
- telerau contract arfaethedig ar gyfer cyflenwadau neu wasanaethau i ysgolion
- trefniadau ar gyfer addysgu disgyblion sydd â datganiadau o anghenion addysgol arbennig
- trefniadau ar gyfer defnyddio unedau cyfeirio disgyblion ac addysgu plant heb fod yn yr ysgol
- trefniadau ar gyfer addysg blynyddoedd cynnar
- trefniadau ar gyfer yswiriant
- newidiadau arfaethedig i gyllido cynlluniau ysgolion
- trefniadau gweinyddol ar gyfer dyrannu grantiau’r llywodraeth ganolog
- trefniadau ar gyfer prydau ysgol am ddim
Cysylltu
Hannah Castle, Cadeirydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion
Jonathan Lewis, Is-Gadeirydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion
Judith Tutssel, Ysgrifennydd y Fforwm Cyllidebau Ysgolion