Grant Hanfodion Ysgol
Os ydych chi'n riant neu'n warcheidwad i blentyn yn yr ysgol, efallai eich bod yn gymwys i dderbyn grant i'ch helpu chi i dalu am eitemau hanfodol ar eu cyfer.
Enw swyddogol y grant yw Grant Hanfodion Ysgol. Mae'r grant hefyd yn cael ei adnabod fel grant datblygu disgyblion, Grant Mynediad Datblygu Disgyblion (GDD) neu'r grant gwisg ysgol.
Mae’r Grant Hanfodion Ysgol ar gael ar gyfer plant y mae’r awdurdod lleol yn gofalu amdanynt.
Faint sydd ar gael?
Bydd y grant ar gyfer y flwyddyn ysgol gyfredol fydd:
- £200 ar gyfer disgyblion blwyddyn 7, a
- £125 ar gyfer pob disgybl arall.
Sut y gallwch chi ei ddefnyddio?
Gallwch ddefnyddio'r grant i dalu am:
- gwisg ysgol ac esgidiau,
- dillad ac offer chwaraeon,
- gweithgareddau ysgol, yn cynnwys gwersi cerdd, tripiau ysgol a chlybiau ar ôl ysgol,
- offer i'r ystafell ddosbarth yn cynnwys beiros, pensiliau a bag ysgol,
- gliniadur neu dabled sydd ddim ar gael i'w llogi gan yr ysgol.
Meini prawf
Rydych yn gymwys os yw eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim. Cewch brydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn un o’r canlynol:
- Credyd Cynhwysol ac enillion net y cartref yn llai na £7400
- Elfen warantedig o Gredyd Pensiwn
Nid yw’n ymestyn i ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim dan:
- Cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol
- Y cynllun amddiffyniad dros dro
- Y cynllun prydau ysgol am ddim wedi ei ehangu, ar gyfer y rheiny sy’n derbyn Credyd Cynhwysol gydag enillion dros £7400 nad yw ond ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 ac 8 o 01 Medi 2026.
Hyd yn oed os yw eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim fel rhan o’r cynllun Prydau Ysgol am Ddim Cyffredinol, mae’n dal yn bwysig gwirio a ydych yn gymwys i gael mynediad at y Grant Hanfodion Ysgol a chyllid ychwanegol i’ch ysgol.
Edrychwch i weld pa gymorth arall sydd ar gael os nad ydych yn gymwys i dderbyn y grant hwn.
Noder mai dim ond un cais am y Grant Hanfodion Ysgol y gall trigolion ei gyflwyno fesul blwyddyn ysgol academaidd.
Gwneud cais
I wneud cais, byddwch angen:
- manylion cyswllt
- ysgol eich plentyn,
- rhif yswiriant gwladol,
- manylion banc.
Byddwch yn derbyn e-bost yn cadarnhau eich cais, a byddwn yn gadael i chi wybod beth yw'r camau nesaf.