O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Cyngor a chefnogaeth i fusnesau
Mae gennym ni wybodaeth a phrofiad i helpu’r rhai sy’n bwriadu sefydlu neu ehangu busnes ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Rydym yn annog ymholiadau gan sefydliadau o bob maint, o brosiectau sefydlu bychain i gwmnïau aml-genedlaethol mawr. Rydym yn trosi cymaint o ymholiadau â phosib yn llwyddiant busnes.
Mae pob ymholiad yn cael sylw mewn ffordd gyfrinachol, broffesiynol a chyfeillgar. Mae cyngor am ddim yn cael ei ddarparu am gynhwysion hanfodol prosiect busnes llwyddiannus.
Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
- cyllid
- safleoedd ac eiddo
- mentrau hyfforddi
- digwyddiadau busnes lleol
Rydym yn gweinyddu cynlluniau Gronfa Adfywio Arbennig i gefnogi busnesau sy’n cychwyn a chwmnïau sydd eisoes yn masnachu neu’n buddsoddi yn y fwrdeistref sirol.
Rydym yn gweithio’n agos gyda gwasanaeth Busnes Cymru Llywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n cefnogi busnesau. Gallwn eich helpu chi i wneud y penderfyniadau cywir a gwneud cynnydd gyda’ch cynlluniau datblygu’n gyflym ac yn bositif.
Sefydliadau cyngor a chymorth busnes
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu ystod eang o gymorth busnes ac mae wedi ymrwymo i gefnogi twf busnesau lleol.
- Cronfeydd busnes – mae'r Gronfa Dyfodol Economaidd yn cefnogi busnesau newydd, addasiadau i eiddo busnes a chynigion arloesol.
- Cymorth ariannol – mae'r cyngor yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i ddarparu cymorth ariannol a chyngor busnes.
- Cyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr – gall preswylwyr cyflogedig a di-waith droi at Gyflogadwyedd Pen-y-bont ar Ogwr am gymorth i uwchsgilio, cwblhau hyfforddiant a dod o hyd i waith.
Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
Gyda chefnogaeth y cyngor, mae Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr yn rhoi cyfle i fusnesau lleol gyrraedd darpar gwsmeriaid, cleientiaid a chyflenwyr, i gael gwybod am newyddion busnes yn yr ardal a chael mynediad at wahanol gyfleoedd hyfforddi.
Coleg Pen-y-bont ar Ogwr
Mae Coleg Pen-y-bont ar Ogwr yn cefnogi busnesau mewn amrywiaeth o ffyrdd:
- Recriwtio – hysbysebu swyddi gwag am ddim, helpu busnesau i gyflogi prentisiaid a chysylltu â miloedd o fyfyrwyr drwy weithgareddau wedi'u targedu.
- Datblygu staff – cyrsiau wedi'u hariannu i uwchsgilio gweithwyr, prentisiaethau uwch i gefnogi dilyniant staff a hyfforddiant pwrpasol i ddiwallu anghenion penodol.
- Partneriaeth – cynnig dosbarthiadau meistr, ysgoloriaethau a mentora.
Busnes mewn Ffocws
Mae Busnes mewn Ffocws yn darparu gwasanaeth Busnes Cymru blaenllaw Llywodraeth Cymru sy'n rhoi cyngor busnes un-i-un a hyfforddiant a gweithdai sgiliau busnes i fusnesau bach.
Busnes Cymru
Mae Busnes Cymru (External link - Opens in a new tab or window) yn rhoi cymorth i bobl sy'n dechrau busnes, yn ei redeg a'i ddatblygu, gan gynnwys gwybodaeth, cyngor ac arweiniad sydd ar gael ar-lein neu dros y ffôn.
Bargen Dinas Prifddinas-Ranbarth Caerdydd (CCR)
Mae Bargen Dinas CCR yn rhaglen y cytunwyd arni rhwng Llywodraeth y DU, Llywodraeth Cymru a deg awdurdod lleol yn Ne-ddwyrain Cymru i gefnogi twf economaidd sylweddol yn y rhanbarth drwy fuddsoddi, uwchsgilio a sicrhau gwell cysylltedd.
Siambrau Cymru
Gall Siambrau Cymru hwyluso twf i fusnesau Cymru, gan sicrhau bod y Llywodraeth yn eich cefnogi drwy bolisi priodol.
Yr Adran Gwaith a Phensiynau
Mae gwybodaeth a chymorth ar gael drwy'r Adran Gwaith a Phensiynau os ydych chi’n datblygu eich busnes neu wedi penderfynu lleihau eich gweithlu.
Canolfan Byd Gwaith
Gall cyflogwyr gael mynediad at ystod eang o wasanaethau recriwtio drwy'r Ganolfan Byd Gwaith.
Banc Datblygu Cymru
Mae Banc Datblygu Cymru yn helpu busnesau i gael y cyfalaf sydd ei angen arnynt i ddechrau, cryfhau a datblygu. Gall busnesau gael benthyciadau a buddsoddiad o £1,000 hyd at £5 miliwn posibl.
Ffederasiwn Busnesau Bach
Mae Ffederasiwn Busnesau Bach yn gweithio gydag aelodau, Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr etholedig ac awdurdodau lleol i gefnogi busnesau bach a'r rhai sy'n hunangyflogedig.
GO Wales
Mae GO Wales yn cysylltu â chyflogwyr, myfyrwyr a graddedigion lleol i gynnig lleoliadau gwaith, profiad gwaith, academïau hyfforddi a swyddi.
Llywodraeth y DU
Gall Llywodraeth y DU ddarparu gwybodaeth am ffyrlo, cymorth ariannol a chyngor busnes.
Cwmpas
Mae Cwmpas yn darparu cefnogaeth ymatebol, ddibynadwy a hyblyg i fentrau cydweithredol, mentrau cymdeithasol, grwpiau cymunedol a mudiadau gwirfoddol.
Syniadau Mawr Cymru
Os wyt ti dan 25 oed, yn wynebu rhwystrau sy’n dy atal rhag dechrau busnes, yn chwilio am gyfleoedd newydd, neu wedi meddwl am syniad busnes gwych, yna gall Syniadau Mawr Cymru dy helpu!
Cefnogaeth Arloesi Hyblyg (FIS) SMART
Helpu busnesau, y trydydd sector, cyrff sector cyhoeddus a sefydliadau ymchwil i arloesi a chreu cynnyrch a gwasanaethau newydd.
Cwmnïau Cymdeithasol Cymru
Cymorth i ddatblygu a thyfu eich busnes. Gallant eich helpu i ddatblygu syniadau busnes newydd a rhai presennol.