Casgliadau gwyliau banc - Gwybodaeth a chyngor ynghylch ailgylchu a chasglu gwastraff yn ystod gwyliau banc.
Trwyddedau tacsis
Gwneud cais i yrru tacsi, cofrestru cerbyd neu adnewyddu trwydded.
Rydym yn argymell gwneud ceisiadau adnewyddu o leiaf chwech i wyth wythnos cyn y dyddiad terfyn.
Pecyn ymgeisio i yrwyr
Anfonwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i:
Nid yw’r deunyddiau isod yn rhestr gynhwysfawr i’w hastudio ar gyfer y prawf gwybodaeth. Ewch i’ch llyfrgell leol neu chwiliwch ar y rhyngrwyd am fwy o ddeunyddiau cyfeirio, fel:
Darllen hanfodol:
Anfonwch eich ffurflenni wedi’u llenwi i:
Cerbydau Hacni
Cerbydau hurio preifat
Gweithredwr Llogi Preifat
Profi Cerbydau
O 1 Mai 2026 ymlaen, gall perchnogion gael Tystysgrif Prawf MOT a Thystysgrif Datganiad Cymhwysedd (y prawf ychwanegol ar gyfer tacsis/cerbydau hurio preifat) o unrhyw garej profion MOT a gymeradwywyd gan y DVSA sydd wedi'i lleoli yn ardal weinyddol Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Bydd cyfleuster profi Tŷ Thomas o hyd yn cynnig y gwasanaethau hyn, ond yn hytrach na chael prawf wedi'i archebu trwy drwyddedu, os yw perchnogion am ddefnyddio'r cyfleuster hwn, bydd angen iddynt gysylltu â Thŷ Thomas yn uniongyrchol. Gellir archebu prawf gyda Thŷ Thomas drwy ffonio 01656 642816 neu anfon e-bost at fleetreception@bridgend.gov.uk.
Os yw perchnogion yn dymuno mynd i rywle arall i brofi cerbyd, rhaid i’r prawf gael ei wneud gan orsaf brofi MOT a gymeradwywyd gan y DVSA ym Mhen-y-bont ar Ogwr; mae rhestr o orsafoedd cymeradwy wedi'i chyhoeddi ar wefan Gov.uk.
Bydd gofyn i berchnogion uwchlwytho copi o'u tystysgrif MOT a'u Tystysgrif Datganiad Cymhwysedd wrth wneud cais am eu trwydded drwy'r porth ar-lein. Ni fydd perchnogion yn gallu gwneud cais am drwydded heb y dogfennau hyn.
Bydd angen Tystysgrif Graddnodi Mesurydd hefyd ar gyfer Cerbydau Hacni. Ni fydd perchnogion yn gallu gwneud cais am drwydded heb hyn.