Camerâu Cylch Cyfyng ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Rydym yn gweithredu gamerâu sy’n cofnodi ar raddfa o 30 ffrâm yr eiliad. Rydym yn gweithredu camerâu goruchwylio er mwyn gwneud y canlynol:

  • atal a chanfod troseddau
  • adnabod troseddwyr i’w harestio a’u herlyn
  • lleihau ymddygiad gwrthgymdeithasol
  • lleihau’r ofn am droseddu
  • cadw a datblygu llwyddiant busnes ein canol trefi a’r gymuned ehangach

Cael mynediad at recordiad Teledu Cylch Cyfyng ar gyfer materion cyfreithiol

Mae gennych hawl i wneud cais i gael mynediad at recordiad Teledu Cylch Cyfyng o dan Ran 3, Pennod 3, Deddf Diogelu Data GDPR 2018.

Ni chaiff y cyhoedd wneud ceisiadau am recordiadau na gweld delweddau yn yr ystafell reoli, gan na ellir golygu recordiadau sy'n cynnwys trydydd partïon.

Fodd bynnag, os gallai recordiad helpu gyda mater cyfreithiol, gofynnwch i'r heddlu, eich cyfreithiwr neu'ch cwmni yswiriant i lenwi’r ffurflen gais hon.

Cwestiynau Cyffredin

Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod rhagor o gamerâu sefydlog mewn gofod agored cyhoeddus. Fodd bynnag, mae gennym nifer fechan o gamerâu symudol y gellir eu gosod mewn safleoedd dros dro. 

Penderfyniad Partneriaeth Diogelwch Cymuned Pen-y-bont ar Ogwr yw lleoliad y camerâu hyn, mewn ymateb i lefelau uchel o adroddiadau ynghylch ymddygiad gwrthgymdeithasol. 

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Mae pob camera mewn gofod cyhoeddus agored yn gweithio’n llawn ac yn recordio. Os bydd camera’n torri, rhoddir bag dros y camera neu bydd yn cael ei symud nes cael ei atgyweirio.

Nid yw’r Ddeddf Diogelu Data’n berthnasol i ddeiliaid tai sydd â chamerâu ar eu heiddo at ddefnydd personol.

Felly gall camerâu ar eich cartref fonitro priffyrdd cyhoeddus, fel rhywun yn rhoi camera ar ei dŷ i fonitro ei gar ar heol y cyngor.

Cewch weld lleoliadau ein camerâu teledu cylch cyfyng ar ein tudalen Open Data.

Chwilio A i Y

Back to top