Gorchymyn Prynu Gorfodol – Eiddo Gwag Hirdymor
Ar ôl derbyn y gymeradwyaeth Cabinet hon, gwnaed Gorchymyn Prynu Gorfodol Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr (Caffael 44 Heol Castell-nedd, Maesteg, CF36 9EE, yr eiddo) 2025 (“y Gorchymyn Prynu Gorfodol”) yn ffurfiol gan y Cyngor ar 24 Medi 2025.
Ar ôl gwneud y Gorchymyn Prynu Gorfodol, cyflwynodd y Cyngor yr hysbysiad statudol, y Gorchymyn Prynu Gorfodol a'r Datganiad o Resymau.
Mae'r hysbysiad statudol wedi'i osod yn y papur newydd lleol ac mae hysbysiadau safle wedi'u harddangos i hysbysebu'r Gorchymyn Prynu Gorfodol – mae'r hysbysiad yn rhoi manylion sut y gellir cyflwyno gwrthwynebiad i'r Gorchymyn Prynu Gorfodol.
Gellir gweld copïau o'r Gorchymyn Prynu Gorfodol, Map y Gorchymyn Prynu Gorfodol, y Datganiad o Resymau a dogfennau ategol yn Neuadd y Dref Maesteg, 27 Stryd Talbot, Maesteg CF34 9DA yn ystod oriau agor dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Sadwrn 9:00yb - 5:00yh a dydd Iau a dydd Gwener 9:00yb - 5.30yh.
Ar 8 Ebrill 2026, cadarnhaodd Gweinidogion Cymru y Gorchymyn heb ei addasu. Mae'r Gorchymyn wedi'i gadarnhau yn awdurdodi'r Cyngor i gaffael yr Eiddo yn orfodol at ddiben caffael a gwaredu'r Eiddo i berson sy'n bwriadu ailddefnyddio'r Eiddo ar gyfer llety tai.
Mae'r Hysbysiad Cadarnhau'r Gorchymyn wedi'i osod yn y papur newydd lleol ac mae hysbysiadau safle wedi'u harddangos i roi hysbysiad o'r penderfyniad cadarnhau. Cyhoeddir yr Hysbysiad yn y Glamorgan Gazette ar Ddydd Iau 7 Mai 2026.