Casgliadau gwastraff ac ailgylchu gŵyl y banc: Ni fydd casgliadau ar Ddydd Llun 25 Awst 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 30 Awst 2025.
Dewch yn Aelod Lleyg
Mae pedwar Aelod Lleyg yn gwasanaethu ar Bwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’r Cyngor. Mae’r pwyllgorau statudol hyn yn rhan hollbwysig o raglenni gwella a fframweithiau llywodraethu Awdurdodau Lleol.
Diben y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio yw rhoi sicrwydd annibynnol ynglŷn â digonolrwydd ac effeithiolrwydd y fframwaith rheoli risg, yr amgylchedd rheoli mewnol, y trefniadau asesu perfformiad, y modd yr ymdrinnir â chwynion, a chywirdeb prosesau adrodd ariannol a phrosesau llywodraethu. Trwy oruchwylio gwaith archwilio mewnol ac allanol, mae’n gwneud cyfraniad pwysig at sicrhau bod trefniadau sicrwydd effeithiol ar waith.
Ar hyn o bryd, cynhelir cyfarfodydd hybrid sy’n galluogi aelodau’r pwyllgor i fynychu wyneb yn wyneb neu o bell – rhywbeth sy’n hwyluso Unigolion Lleyg i gymryd rhan yn y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio.
Mae’r Pwyllgor yn cyfarfod oddeutu chwe gwaith y flwyddyn ac mae Unigolion Lleyg (Aelodau Annibynnol) yn cael cydnabyddiaeth ariannol am fynychu’r cyfarfodydd.
Caiff y gydnabyddiaeth ariannol ei thalu yn unol â’r cyfraddau a bennir gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. Gweler yr adroddiad sydd ynghlwm (adran 9, tudalennau 31-32). Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol - Adroddiad Blynyddol.
Swyddi gwag diweddaraf
- Dim seddi gwag ar y funud
Ymgeisiwch i ddod yn Aelod Lleyg
Os oes gennych ddiddordeb neu brofiad mewn llywodraethu, archwilio, rheoli perfformiad neu reoli risg, ac yn dymuno helpu’r cyngor i sicrhau y caiff ei lywodraethu’n effeithiol, cwblhewch ffurflen gais:
Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at: