Newyddion

Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r rhestr hon newyddion ar hyn o bryd gael ei hidlo gan Medi 2025 Dileu hidlydd

Golygfa o'r awyr o Fae Sandy

Delweddau ffug o waith adfywio yn 'camarwain y cyhoedd'

Dydd Gwener 26 Medi 2025

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn annog pobl i ddiystyru unrhyw ddelweddau CGI answyddogol y gallen nhw eu gweld ar-lein sy'n honni eu bod yn dangos sut olwg fydd ar dai arfaethedig yn ardaloedd adfywio Salt Lake a glannau Porthcawl.

Lleoliad eiconig poblogaidd Porthcawl, Pafiliwn y Grand.

Pafiliwn y Grand yn cael hwb o £1.4m gan Gyngor Celfyddydau Cymru

Dydd Iau 25 Medi 2025

Mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi cyhoeddi y bydd y gwaith parhaus i adfywio a thrawsnewid Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl yn cael hwb ychwanegol o £1.4m mewn cyllid.

Lluniau o strydoedd i gerddwyr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Cytunwyd ar y camau cyntaf tuag at ymestyn mynediad yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Mercher 24 Medi 2025

Heddiw (dydd Mawrth 24 Medi) mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo cynlluniau ar gyfer newid y rheolau ar fynediad i strydoedd i gerddwyr canol tref Pen-y-bont ar Ogwr fel rhan o orchymyn traffig arbrofol newydd.

(Ch – Dd) Robert Frowen, Rheolwr Tîm Datblygu Economaidd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio gydag aelodau o dîm Andrew Scott Ltd ar safle’r gwaith yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm, y Pîl.

Gwaith adeiladu ar unedau Ystâd Ddiwydiannol Village Farm wedi dechrau

Dydd Mercher 24 Medi 2025

Mae gwaith ar gyfres o unedau busnes newydd yn Ystâd Ddiwydiannol Village Farm wedi dechrau ac yn mynd yn ei flaen yn esmwyth.

Delwedd a gynhyrchwyd gan gyfrifiadur o sut olwg allai fod ar yr ysgol ar ôl cwblhau'r prosiect

Datgelu cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer Ysgol Gynradd newydd Mynydd Cynffig

Dydd Mawrth 23 Medi 2025

Mae cynlluniau wedi'u diweddaru ar gyfer Ysgol Gynradd Mynydd Cynffig wedi'u cyflwyno i sicrhau ymhellach bod yr ailddatblygiad yn cyflawni'r safonau uchaf o ran addysg, cynaliadwyedd a budd cymunedol tra'n ymgorffori adborth gan drigolion.

(O'r chwith i'r dde) Y Cynghorydd Huw David, Maer Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Paul, Callum, a'r Cynghorydd Neelo Farr, Aelod Cabinet dros Adfywio, Datblygu Economaidd a Thai yn sefyll gerllaw y rig pwrpasol newydd yng nghanolfan hyfforddi Bowtec yn y Pîl.

Partner darparwr lleol yn ehangu gyda chymorth busnes gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Gwener 05 Medi 2025

Mae darparwr hyfforddi ym Mhen-y-bont ar Ogwr wedi ehangu eu busnes yn ddiweddar gyda chymorth Tîm Datblygu Economaidd a Menter Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Delwedd o logo Arolygiaeth Gofal Cymru

Gwelliannau 'hynod drawiadol' yn ansawdd y Gwasanaethau Plant a Theuluoedd yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Dydd Iau 04 Medi 2025

Mae adroddiad newydd ar sut mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn darparu gwasanaethau cymdeithasol allweddol i blant a theuluoedd wedi datgelu sut mae'r awdurdod wedi cyflawni gwelliannau mawr ar draws pob un o'i gategorïau targed mewn llai na dwy flynedd.

 Arwydd teithio llesol

Gwelliannau Teithio Llesol: Sesiwn galw heibio ymgysylltu â'r gymuned a gwybodaeth

Dydd Mawrth 02 Medi 2025

Gwahoddir preswylwyr i sesiwn ymgysylltu i drafod llwybr Teithio Llesol arfaethedig yn ardal Ewenny Road yn nhref Pen-y-bont ar Ogwr.

Chwilio A i Y

Back to top