Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Ysgol Gynradd Ffaldau yn derbyn adroddiad gwych gan Estyn
Dydd Llun 18 Tachwedd 2024
Yn dilyn arolwg gan Estyn yn gynharach yn y flwyddyn, cafodd Ysgol Gynradd Ffaldau yng Nghwm Garw ganmoliaeth gan arolygwyr am nifer o gryfderau, yn enwedig am ei hethos gofalgar, sy’n ganolog i bopeth a wna’r ysgol.
Metrolink newydd Porthcawl yn barod i agor
Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cadarnhau y bydd Metrolink newydd Porthcawl yn agor ei ddrysau ddydd Llun 18 Tachwedd 2024.
Rhuban Gwyn 'Ras dros Newid' - dros ddyfodol gwell
Dydd Gwener 15 Tachwedd 2024
Mae Gwasanaeth Cam-drin Domestig Assia Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Heddlu De Cymru wedi dod ynghyd i gynnal ras hwyl 5k i'r teulu o'r enw 'Ras dros Newid: Rhoi Diwedd ar y Trais', gyda chefnogaeth Canolfan Ffitrwydd Raw Performance. Mae'r digwyddiad wedi'i drefnu ar gyfer 30 Tachwedd, ar Gaeau Trecelyn. Pen-y-bont ar Ogwr, mewn ymgais i godi ymwybyddiaeth o'r Rhuban Gwyn ac arian i gefnogi Assia.
Cyhoeddi ymgyrch Nadolig blynyddol i gefnogi canol trefi
Dydd Mercher 13 Tachwedd 2024
Mae'r cyngor yn cyhoeddi ei ymgyrch blynyddol ‘Treuliwch yr Ŵyl yng nghanol eich tref' yr wythnos hon, er mwyn annog pobl i ‘siopa’n lleol' a chefnogi busnesau annibynnol a digwyddiadau yn y cyfnod sy'n arwain at y Nadolig.
Prosiectau cymunedol yn derbyn £61,000 o gyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned
Dydd Llun 11 Tachwedd 2024
Yn dilyn ystyriaeth ofalus gan banel yn cynnwys Aelodau o Gabinet a swyddogion Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, mae disgwyl i gymunedau ar hyd y fwrdeistref sirol elwa o ail rownd cyllid Grant Cyfalaf Cyngor Tref a Chymuned i gefnogi prosiectau arfaethedig.
Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid ar restr fer ar gyfer dyfarniad gofal bugeiliol eithriadol
Dydd Mawrth 05 Tachwedd 2024
Yn ddiweddar, daeth Tyrone Hughes, Swyddog Addysg Ôl-16, Hyfforddiant a Chyflogaeth gyda Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn un o bump a gyrhaeddodd y rhestr fel ar gyfer Cyfraniad Eithriadol i Ofal Bugeiliol gyda Chymdeithas Genedlaethol Addysg Fugeiliol (NAPCE).
Cyhoeddi Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru mewn ailgylchu
Dydd Gwener 01 Tachwedd 2024
Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi’u henwi fel yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau yng Nghymru am ailgylchu.
Gwnewch y Nadolig yn amser hapusach drwy gyfrannu at Apêl Sion Corn
Dydd Mawrth 29 Hydref 2024
Rydym yn gofyn i bobl ar hyd a lled Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a wnan nhw helpu i ddod â gwên i blentyn neu berson ifanc bregus y Nadolig hwn drwy gyfrannu at Apêl Sion Corn eleni.
Ansawdd yr aer yn parhau i wella ar Stryd y Parc
Dydd Llun 28 Hydref 2024
Mae lefelau nitrogen deuocsid ar Stryd y Parc yng nghanol Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ostwng yn dilyn gweithredoedd sydd wedi arwain at welliannau sylweddol yn ansawdd yr aer yn lleol.
Cytuno ar gynllun newydd i fynd i’r afael â rhywogaethau ymledol
Dydd Gwener 25 Hydref 2024
Mae cynlluniau newydd wedi’u datblygu gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn amlinellu sut mae’r awdurdod yn bwriadu atal bywyd gwyllt a phlanhigion ymledol rhag difrodi cynefinoedd, adeiladau, ffyrdd a seilwaith lleol eraill.