Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Masnachwr twyllodrus “esgeulus” yn derbyn dedfryd o garchar yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir
Dydd Iau 19 Hydref 2023
Yn dilyn ymchwiliad gan y Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir, derbyniodd Jordan Klein Jones, ffitiwr ffenestri ac UPVC o Ben-y-bont ar Ogwr, ddedfryd o 32 mis yn y carchar wedi iddo ddwyn miloedd o bunnoedd gan 22 cwsmer drwy dwyll.
Torri Gwallt yn Codi Gwên yn Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Dydd Iau 19 Hydref 2023
I helpu yn ystod y cyfnod hwn o heriau ariannol, cynigwyd cymorth i rieni Ysgol Gynradd Cwm Ogwr drwy garedigrwydd Julie Grant a Lisa Morgan, trinwyr gwallt lleol. Rhoddodd y ddwy eu hamser a’u sgiliau am ddim, gan dorri gwallt plant yn barod i ddychwelyd i'r ysgol.
Diweddaru’r Cabinet ar gynnydd ailddatblygiad Pafiliwn y Grand Porthcawl
Dydd Iau 19 Hydref 2023
Ar ôl diweddariad ar gynnydd y gwaith o ail-ddatblygu Pafiliwn y Grand ym Mhorthcawl, mae Cabinet Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cymeradwyo rhai newidiadau i’r broses gaffael, er mwyn lleihau’r risg o unrhyw oedi i’r prosiect.
Cymuned Nantymoel yn croesawu darpariaeth gofal plant.
Dydd Mawrth 17 Hydref 2023
Mae cymuned leol arall yn elwa o raglen ehangu gofal plant Dechrau’n Deg Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, wrth i holl blant ifanc rhwng dwy a thair blwydd oed Nantymoel ddod yn gymwys am ddarpariaeth gofal plant a ariennir.
Cyngor yn codi ymwybyddiaeth ac annog pobl i ystyried mabwysiadu
Dydd Llun 16 Hydref 2023
Nododd 16 Hydref ddechrau Wythnos Mabwysiadu Cenedlaethol gyda chyfres o ddigwyddiadau, ymgyrchoedd, cynnwys a sgyrsiau cyffrous wedi eu cynllunio.
Gweinidog yn ymweld â Maesteg i weld y cynnydd mewn ailddatblygiad nodedig
Dydd Llun 16 Hydref 2023
Ymwelodd Rebecca Evans AS, Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Llywodraeth Cymru, â Maesteg yn ddiweddar i weld y cynnydd yn ailddatblygu Neuadd y Dref Maesteg.
Cefnogaeth i fasnachwyr yn parhau wedi i’r farchnad dan do orfod cau oherwydd RAAC
Dydd Llun 16 Hydref 2023
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi darparu diweddariad ynglŷn â’i ymdrechion diweddaraf i gefnogi masnachwyr wedi i Farchnad Dan Do Pen-y-bont ar Ogwr gau dros dro.
Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu yn annog rhagor o Gymry i ystyried mabwysiadu.
Dydd Llun 16 Hydref 2023
Yn ystod Wythnos Genedlaethol Mabwysiadu (16-22 Hydref), mae Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol Cymru (NAS) yn parhau ei ymdrechion i annog mwy o bobl i ystyried mabwysiadu.
Llwybr teithio llesol o Ynysawdre ar y gweill
Dydd Iau 12 Hydref 2023
Gyda chymorth gan gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer llwybrau teithio llesol yng Nghymru, bydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dechrau gwaith cyn hir ar lwybr teithio llesol o Ynysawdre (a welir mewn coch ar y map). Bydd y llwybr hwn yn cysylltu dau bwynt sydd eisoes yn rhan o’r rhwydwaith teithio llesol, yn ogystal â darparu man cychwyn ar gyfer llwybr arfaethedig ar gyfer y dyfodol a fydd yn parhau tua’r dwyrain heibio’r Afon Ogwr.
Cymeradwyo Ysgol Gynradd Cwmfelin am gynnig cyfleoedd dysgu ar sail profiadau ‘bywyd go iawn’
Dydd Iau 12 Hydref 2023
Roedd arolwg gan Estyn ym mis Tachwedd y llynedd wedi canmol Ysgol Gynradd Cwmfelin am sawl un o’i harferion, yn enwedig y modd y mae’n cynnig profiadau dysgu dilys i’w disgyblion.