Biniau Sbwriel Cyhoeddus
Dylid gwaredu sbwriel mewn ffordd gyfrifol bob amser; mae gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus yn drosedd.
Os byddwch yn gollwng sbwriel mewn man cyhoeddus, rydych wedi cyflawni trosedd a gallech gael Hysbysiad Cosb Benodedig o £100 o dan bwerau Deddf Cymdogaethau Glân a'r Amgylchedd 2005.
Mathau o finiau sbwriel cyhoeddus

Biniau baw cŵn
Mae'r rhain i’w cael mewn lleoliadau poblogaidd ledled y fwrdeistref sirol i leihau halogiad a gwella ailgylchu mewn biniau sbwriel.

Biniau gwaredu deunyddiau barbeciw
Mae'r rhain i'w cael ar hyd arfordir Porthcawl. Rhaid oeri deunyddiau barbeciw cyn eu gwaredu.

Biniau ailgylchu deuol
Mae'r rhain i'w gweld ym Maesteg a Phorthcawl, ac maen nhw’n derbyn ailgylchu cymysg gan gynnwys - gwydr, papur a chardfwrdd, caniau, a phlastig.
Biniau ailgylchu deuol
Beth gellir ei roi mewn biniau ailgylchu deuol?
- caniau
- papur
- poteli plastig
- poteli gwydr
Dylid rhoi'r eitemau hyn mewn biniau dynodedig neu eu gwaredu gartref gyda gwastraff a/neu ailgylchu’r cartref.
- baw cŵn
- cewynnau
- gwastraff bwyd
- deunyddiau barbeciw tafladwy a glo
- bagiau plastig
Dylid gwaredu eitemau fflamadwy fel fêps a chanisterau nwy yn ddiogel yn ein canolfannau ailgylchu cymunedol lleol
Beth os yw bin sbwriel yn llawn?
Mae ein biniau sbwriel i gyd yn cael eu gwagio'n rheolaidd. Os yw bin sbwriel yn llawn, ewch â'ch sbwriel adref gyda chi a'i waredu gyda'ch ailgylchu neu wastraff cartref.
Rhoi gwybod am broblem sbwriel.
Os ydych chi'n poeni am sbwriel wedi’i daflu, gallwch roi gwybod amdano drwy ddefnyddio'r ffurflen ar-lein isod, neu drwy e-bostio cleanupthecounty@bridgend.gov.uk
Gallwch hefyd roi gwybod am broblemau gyda baw cŵn a thipio anghyfreithlon.
Nid y cyngor sy’n gyfrifol am bob bin sbwriel yn y fwrdeistref sirol - mae rhai yn cael eu rheoli gan sefydliadau eraill fel cymdeithasau tai, parciau neu gynghorau tref.
Os gwelwch chi fin sbwriel sydd angen ei wagio ac heb fod yn siŵr sut i roi gwybod amdano, gallwch gysylltu â cleanupthecounty@bridgend.gov.uk.