Ymgynghoriad ar y Canllaw Cynllunio Atodol Bioamrywiaeth Drafft
Mae’r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) Bioamrywiaeth Drafft wedi'i baratoi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.
Pwrpas y CCA hwn yw darparu arweiniad pellach ar weithredu polisïau’r Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) mabwysiedig (Mawrth, 2024) sy'n ymwneud ag amddiffyn a gwella cynefinoedd a'r amgylchedd naturiol.
Mae'n esbonio sut y dylai cynigion datblygu amddiffyn, cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth a sicrhau budd net i fioamrywiaeth, yn unol â gofynion y CDLlN a'r polisi cynllunio cenedlaethol. Mae hefyd yn nodi sut y dylai ymgeiswyr, datblygwyr a phenderfynwyr fynd i'r afael â'r gofynion hyn drwy gydol cynllunio, dylunio, asesu a chyflwyno cynigion datblygu.
Ar ôl ei fabwysiadu, bydd y CCA hwn yn ystyriaeth berthnasol wrth bennu’r holl geisiadau cynllunio, gan gynnwys ceisiadau ar gyfer adnewyddu caniatâd.
Mae'r CCA hwn yn rhoi canllawiau penodol ar:
- Gymhwyso gofynion bioamrywiaeth y CDLlN i gynigion datblygu;
- Cymhwyso'r dull fesul cam (hierarchaeth liniaru) i osgoi, lleihau, adfer a, lle bo angen, gwneud iawn am effeithiau anochel ar fioamrywiaeth;
- Amddiffyn, cynnal a chyfoethogi bioamrywiaeth, gan gynnwys cynefinoedd, rhywogaethau a rhwydweithiau ecolegol;
- Darparu budd net i fioamrywiaeth drwy ddylunio da a seilwaith gwyrdd amlswyddogaethol;
- Cymhwyso fframwaith DECCA (Amrywiaeth, Graddfa, Cyflwr, Cysylltedd ac Addasrwydd gwytnwch ecosystemau) i helpu i greu ecosystemau mwy gwydn, wedi'u cysylltu'n well ac wedi'u haddasu i'r hinsawdd; a
- Pharatoi a chyflwyno gwybodaeth a thystiolaeth ecolegol sy'n ofynnol i gefnogi ceisiadau cynllunio a dangos cydymffurfiaeth polisi.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29 Hydref ac 10 Rhagfyr 2026.
Dogfennau ymgynghori
Gellir gweld dogfennau’r ymgynghoriad isod.
Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:
- lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@bridgend.gov.uk
- ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,
Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Bydd yn rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 11:59pm, 10 Rhagfyr 2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol: