Ymgynghoriad Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) ar y Safonau Parcio Drafft
Mae'r Canllaw Cynllunio Atodol (CCA) hwn wedi'i baratoi i ddisodli CCA 17: Safonau Parcio, sy’n bodoli eisoes, a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr ar 21 Medi 2011.
Mae'r CCA drafft hwn yn cadw dull gweithredu yn ôl ardal i safonau parcio sy'n adlewyrchu lefelau gwahanol o hygyrchedd ar draws y Fwrdeistref Sirol. Mae'r safonau wedi'u hadolygu i sicrhau eu bod yn darparu sail briodol a chymesur ar gyfer asesu'r galw am barcio, cyfleoedd teithio cynaliadwy ac effeithiau posibl datblygiad ar y rhwydwaith priffyrdd yng nghyd-destun Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r CCA drafft yn darparu safonau a chanllawiau wedi'u diweddaru ar gyfer datblygiadau preswyl ac amhreswyl, gwefru cerbydau trydan, parcio hygyrch ac i bobl anabl, parcio beiciau a cherbydau dwy olwyn wedi'u pweru. Mae hefyd yn darparu canllawiau manylach ar gynllun a dyluniad parcio, gan gynnwys darpariaeth ar gyfer cerdded, olwyno a beicio, gofynion gweithredol a gwasanaethu.
Bydd y safonau parcio yn ehangu ar y polisïau parcio a nodir yn y Cynllun Datblygu Lleol Newydd (CDLlN) a fabwysiadwyd ac yn cefnogi ei weithredu.
Bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn cael ei gynnal am 6 wythnos rhwng 29 Hydref ac 10 Rhagfyr 2026.
Dogfennau ymgynghori
Gellir gweld dogfennau’r ymgynghoriad isod.
Gellir gweld ffurflen sylwadau isod hefyd, a'i chyflwyno drwy:
- lawrlwytho'r ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i LDP@bridgend.gov.uk
- ei hargraffu a'i phostio i'r Tîm Polisi Cynllunio Strategol, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr,
Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Bydd yn rhaid i bob sylw ddod i law erbyn 11:59pm, 10 Rhagfyr 2026.
Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ymgynghoriad drwy gysylltu â’r Tîm Polisi Cynllunio Strategol: