Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol

Rydym yn deall mai ein gweithlu yw ein hased mwyaf a’i fod yn rhan annatod o’r gwaith o ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel, sydd â ffocws ar ddeilliannau ac sy'n canolbwyntio ar y person.

Mae Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RDGGC) yn darparu hyfforddiant a datblygiad cynhwysfawr mewn partneriaeth â darparwyr gofal cymdeithasol.

Gall y gweithlu gofal cymdeithasol gael mynediad iddynt. mewn sawl ffordd.  

Mae hyfforddiant ar gael i ymarferwyr sy'n gweithio gydag oedolion, plant a gofalwyr, ac sy'n gofalu amdanynt, yn y sector statudol, y sector annibynnol a’r trydydd sector ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Mae gan ein tîm hynod gymwys ystod eang o wybodaeth a sgiliau i helpu i sicrhau eu bod yn darparu'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid. 

Llyfryn Gwybodaeth y Cwrs

Gweld a lawrlwytho llyfryn gwybodaeth Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RDGGC).

Mae Academi Gweithlu Gofal Cymdeithasol Pen-y-bont ar Ogwr (a elwir hefyd yn RDGGC) yn cynnig amrywiaeth o gyfleoedd dysgu i staff gofal cymdeithasol, gofalwyr maeth a gwirfoddolwyr.

Mae ein cyrsiau ar gael i bob sefydliad gofal cymdeithasol sydd wedi'u lleoli ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, a hynny am ddim.

Mewngofnodi i'r Gronfa Ddysgu

Mae cyfleoedd dysgu a datblygu yn cael eu hysbysebu ar-lein.

Wrth i gwrs ddod ar gael, bydd yn cael ei bostio ar y wefan, sylwer y gallai rhai meysydd dysgu a datblygu a nodir yn y rhaglen fod ar gael yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac ni fyddant wedi eu rhoi ar y wefan eto neu efallai eu bod wedi'u canslo.

Gellir ychwanegu cyrsiau nad ydynt wedi'u nodi yn y rhaglen yn ystod y flwyddyn mewn ymateb i anghenion y sector.

Dyfarniadau a Chymwysterau

Gwybodaeth am gymwysterau Rhaglen Datblygu'r Gweithlu Gofal Cymdeithasol (RCWDP):

  • Gofal Cymdeithasol Oedolion a Phlant
  • Gwasanaethau Gofal Uniongyrchol i Oedolion
  • Gofal Preswyl i Blant

Gwneud cais

Dychwelwch eich ffurflenni gais wedi'i chwblhau at:

Cyfeiriad: Datblygu Gweithlu Gofal Cymdeithasol, Lefel 2 Swyddfeydd Dinesig, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: SCWDP@bridgend.gov.uk

Cysylltu

Rydym yn credu y dylai'r rhaglen fod yn ddigon hyblyg i allu ymateb i gyd-destun newidiol gofal cymdeithasol. 
Os bydd anghenion dysgu a datblygiad yn codi yn ystod y flwyddyn, cysylltwch â ni i drafod sut y gellir cefnogi'r rhain. 

Cyfeiriad ebost: scwdp@bridgend.gov.uk

Darparwyr a gomisiynwyd a sefydliadau partner statudol eraill

Ar gyfer hyfforddiant i ddarparwyr a gomisiynwyd a sefydliadau partner statudol eraill, cysylltwch â:

Cyfeiriad ebost: scwdp@bridgend.gov.uk

Chwilio A i Y

Back to top