O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Chwarae ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Mae gan bob plentyn yr hawl i chwarae. Ein rôl yw sicrhau bod gan blant sy'n byw o fewn Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yr amser, gofod a'r hawl i gael mynediad i gyfleoedd chwarae o safon.
Mae Llywodraeth Cymru yn diffinio chwarae fel ymddygiad sy'n: rhydd i'w ddewis, yn cael ei gyfarwyddo'n bersonol ac yn cael ei ysgogi'n gynhenid ac nad yw'n cael ei berfformio ar gyfer unrhyw nod neu wobr allanol.
Hynny yw, plant a phobl ifanc sy'n penderfynu ac yn rheoli cynnwys a bwriad eu chware, drwy ddilyn eu greddfau, syniadau a diddordebau eu hunain ac yn eu ffordd eu hunain, ac am eu rhesymau eu hunain.
Cysylltu

Chware i BAWB
Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig nifer o gyfleoedd i BOB plentyn, cyfleoedd cynhwysol ar gyfer plant a phobl ifanc, hyfforddiant a chefnogaeth i grwpiau sy'n awyddus i fod yn fwy cynhwysol, llais ar gyfer pobl sy'n abl mewn ffordd wahanol a'u teuluoedd a llawer mwy.

Gwirfoddoli
Ydych chi'n frwd dros roi cyfleoedd i blant a phobl ifanc chwarae? Mae chwarae plant yn beth hyfryd i fod yn rhan ohono, ac mae helpu i hwyluso chwarae plant sy'n arwain at ddatblygu nifer o sgiliau bywyd yn wirioneddol hudolus.

Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n ddyletswydd statudol ar bob cyngor yng Nghymru i ymgymryd ag Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae (PSA) bob tair blynedd a chynhyrchu cynllun gweithredu blynyddol.


Lleoliadau a Gofodau
Mae Cyngor Bwrdeistref Pen-y-bont ar Ogwr yn cynnig lleoliadau a gofodau anhygoel i blant a phobl ifanc gael chwarae, mwynhau diwylliant a chadw'n brysur.
Beicio | Traethau | Meysydd chwarae | Gwarchodfeydd Natur | Prosiectau Cymunedol Noddfa | Golf | Canolfan Chwaraeon Dŵr Rest Bay | Ymddiriedolaeth Ddiwylliannol Awen | Canolfannau Halo Leisure