Cynhyrchion mislifol am ddim

Mae tlodi mislif yn parhau i fod yn bryder dirfawr mewn sawl cymuned, gydag unigolion a theuluoedd yn cael trafferth fforddio cynnyrch misglwyf angenrheidiol.

Yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae chwyddiant ar ei uchaf a biliau ynni’n saethu i fyny’n golygu bod nifer wedi eu gorfodi i flaenoriaethu hanfodion cartref eraill dros brynu cynnyrch fel padiau a thamponau.

I bobl ifanc, mae’r diffyg hawl i gynnyrch yn amharu ar addysg a phresenoldeb yn yr ysgol.

grace and green products

Tanysgrifiad cynhyrchion mislif am ddim

Nod y rhaglen cynnyrch mislif am ddim yw mynd i’r afael â’r broblem o dlodi mislif, gan sicrhau bod unigolion sy’n wynebu caledi ariannol â hawl i gynnyrch misglwyf hanfodol, gan chwalu rhwystrau’r hawl i addysg.

Drwy bartneriaeth â Grace & Green, darparwr blaenllaw cynhyrchion mislif ecogyfeillgar, gall trigolion o dan 25 oed yn y fwrdeistref sirol gael cynhyrchion yn uniongyrchol i’w cartref neu eu codi o fan casglu, gan sicrhau y gall unigolion reoli eu mislif gydag urddas a hyder.

Mae unrhyw un o dan 25 oed sydd â chod post Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn gymwys i gofrestru!

Stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif

Yn galw ar bawb 11 i 25 oed, mae’n amser i chi fynd amdani a bachu nwyddau gwych oherwydd mae popeth ar ein stondinau Dewis a Dethol Urddas y Mislif ni ar gael AM DDIM!

Mae'r stondinau'n llawn amrywiaeth o gynhyrchion mislif untro ac ailddefnyddiadwy ar gyfer y gymuned.

Felly peidiwch ag oedi am eiliad yn fwy, ewch i'ch Canolfan Hamdden Halo neu Ganolfan Ieuenctid agosaf ac fe allwn ni hwyluso pethau i chi gyda’ch mislif gyda'n gilydd!

Lle i ddod o hyd i’n stondinau ‘Pic-a-Mics’

Pic 'n' Mix Stand

Canolfan Ieuenctid Bracla

Cyfeiriad: Bracla, Whitethorn Drive, Bracla, CF31 2PQ

Canolfan Bywyd Pen-y-bont ar Ogwr

Cyfeiriad: Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4AH

Canolfan Ieuenctid CCYD

Cyfeiriad: Heol-Yr-Ysgol, Tondu, CF32 9EG

Canolfan Ieuenctid Evergreen

Cyfeiriad: Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr CF31 4AD

Canolfan Bywyd Cwm Garw

Cyfeiriad: Iard yr Hen Orsaf, Pontycymer, CF32 8ES

Canolfan Chwaraeon Maesteg

Cyfeiriad: Safle Hen Efail, Nant-y-Crynwydd, CF34 9EB

Canolfan Bywyd Cwm Ogwr

Cyfeiriad: Heol Aber, Bro Ogwr, CF32 7AJ

Pwll Nofio Pencoed

Cyfeiriad: Ffordd Felindre, Pencoed, CF35 5PB

Canolfan Ieuenctid Pencoed

Cyfeiriad: Ffordd Felindre, Pencoed, CF35 5PB

Llyfrgell Porthcawl

Cyfeiriad: 13 Church Place, Porthcawl, CF36 3AG

Pwll Nofio a Chanolfan Ffitrwydd Ynysawdre

Cyfeiriad: Heol-yr-Ysgol, Tondu, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 9ET

Pwll Nofio Pyle

Cyfeiriad: Rhodfa Cae Gwaun, Pyle, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6RP

Canolfan Ieuenctid Cynffig

Cyfeiriad: Ysgol Gyfun Cynffig (Adain Ieuenctid), Rhodfa'r Dwyrain, Mynydd Cynffig, Pen-y-bont ar Ogwr, CF33 6NP

Cynllun Mentora Plws The Bridge

Cyfeiriad: 46-48 Lle Dunraven, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 1JB

Llyfrgell Bettws

Cyfeiriad: Canolfan Fywyd Betws, Bettws Road, Bettws, Pen-y-bont ar Ogwr, CF32 8TB

Chwilio A i Y

Back to top