Addasu ac atgyweirio tai

Mae angen atgyweirio a gwella miloedd o eiddo preifat ledled y fwrdeistref sirol er mwyn eu codi i safonau byw presennol. Rydym yn cynnig sawl grant i helpu i wneud hyn.

Rydym yn defnyddio Polisi Adnewyddu Tai'r Sector Preifat i'n helpu i benderfynu sut i ddyfarnu'r grantiau hyn. Mae’r polisi’n rhoi blaenoriaeth i breswylwyr hŷn a phreswylwyr agored i niwed ac yn canolbwyntio ar ardaloedd difreintiedig.

Grantiau

Cynigir y grantiau canlynol, yn ddibynnol ar amodau penodol:

Mae’r grant hwn, sydd yn helpu i dalu am addasu eiddo ar gyfer unigolyn anabl, yn seiliedig ar brawf modd. Gall perchenogion, meddianwyr a thenantiaid wneud cais am y grant. Gall eiddo gynnwys cartrefi symudol a chartrefi ar gwch.

Efallai y bydd angen i’r ymgeisydd gyfrannu at gost y gwaith. Bydd y cyfraniad, os o gwbl, yn cael ei benderfynu ar sail prawf modd.

Rhaid i’r addasiadau y mae’r grant yn talu amdanynt ateb anghenion penodol yr unigolyn anabl. Bydd ein therapyddion galwedigaethol yn helpu i gadarnhau'r anghenion hyn.

I wneud cais am asesiad addasu gan therapydd galwedigaethol neu am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 642279

Mae hwn yn grant dewisol i dalu am waith a gymeradwywyd dan Grant Cyfleusterau i'r Anabl sy'n fwy na'r uchafswm gorfodol, sef £36,000. Mae'n berthnasol i gynigion o grant a wnaed ar adeg mabwysiadu'r polisi hwn neu ar ôl hynny.

Dyfernir y grant hwn ddim ond os gellir profi y byddai peidio â gwneud hynny’n arwain at golli annibyniaeth a bod angen am gymorth gofal cymdeithasol a fyddai’n costio mwy na’r grant.

Gellir rhoi’r grant ddim ond ar ôl i’r therapydd galwedigaethol gytuno na fydd lleihau’r gwaith na symud yr unigolyn i eiddo mwy addas yn ddewis gwell.

Gellir defnyddio’r grant ar gyfer ffioedd proffesiynol ac ategol yn unig.

I wneud cais am asesiad addasu gan therapydd galwedigaethol neu am Grant Cyfleusterau i’r Anabl, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 642279

Mae hwn yn grant dewisol i helpu pobl anabl i symud o’u cartrefi os yw hyn yn fwy cost-effeithiol na Grant Cyfleusterau i'r Anabl. Gall helpu gyda’r gost o symud cartref a chyflawni mân addasiadau. Mae’r grant hwn ar sail prawf modd.

Gall y grant helpu unigolyn anabl i symud i safle y gellir ei addasu’n haws, neu i safle sydd eisoes wedi'i addasu. Gall hefyd helpu tenantiaid cymdeithasol presennol sy’n byw mewn eiddo addasedig yn ddiangen i symud i rywle arall er mwyn rhoi’r cartref i unigolyn anabl.

Mae hyn yn helpu i gynnal mân atgyweiriadau i gartref neu i atal peryglon difrifol i iechyd neu i ddiogelwch, megis baglu neu gwympo.

Mae’n helpu i wneud eiddo’n ddiogel i’r bobl fwyaf agored i niwed yn y gymuned.

Ar gyfer perchen-feddianwyr sy'n gleientiaid Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr mae’r grant hwn.

 Caiff y gwaith ei gyflawni gan wasanaeth Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, neu gan yr asiant.

Mae’r grant hwn yn rhoi help i berchen-feddianwyr i wneud mân waith atgyweirio i eiddo os ydynt yn agored i niwed ac yn methu â threfnu’r gwaith eu hunain.

Rhoddir y grant hwn i berchen-feddianwyr sy'n gleientiaid Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr er mwyn cyflawni mân waith atgyweirio.

Caiff y gwaith ei gyflawni gan wasanaeth Gofal a Thrwsio Pen-y-bont ar Ogwr, neu gan yr asiant.

Pwrpas y grant hwn yw helpu i ddod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd, gan gynyddu'r cyflenwad o dai rhent fforddiadwy sydd mawr eu hangen.

Byddwn yn asesu pa waith sydd angen ei gynnal er mwyn dod ag eiddo yn ôl i ddefnydd.

Ni cheir dechrau'r gwaith cyn i’r cais gael ei gymeradwyo, a rhaid iddo gael ei gwblhau o fewn chwe mis o gymeradwyo'r grant.

Pwrpas cynlluniau atgyweirio grŵp Pen-y-bont ar Ogwr yw atgyweirio ac adnewyddu grŵp o eiddo.

Rhaid i’r eiddo fod o fewn yr ardal adnewyddu sydd wedi’i datgan cyn y gellir ei gynnwys yn y cynllun atgyweirio grŵp.

Pwrpas y grant hwn yw helpu â’r gost o ‘wella diogelwch' eiddo er mwyn galluogi unigolyn sy’n dioddef o gam-drin domestig neu drais domestig i aros yn eu cartrefi ac i helpu i atal y cyflawnwr rhag dychwelyd i'r eiddo.

Gall gwella diogelwch fod yn ffordd effeithiol o alluogi dioddefwyr a’u plant sy'n medru aros yn eu cartrefi i fod yn ddiogel a pharhau i gael cymorth gan deulu a ffrindiau lleol.

Bydd y grant ar gael i unrhyw un sydd wedi dioddef o gam-drin domestig neu sy’n dioddef ohono ar hyn o bryd, ac sydd wedi cael ei atgyfeirio ar gyfer gwella diogelwch drwy Wasanaeth Cam-drin Domestig Un Stop neu drwy'r Cydlynydd Cam-drin Domestig lleol.

Cysylltu

Ar gyfer ymholiadau yn ymwneud â grantiau, cysylltwch â:

Ffôn: 01656 643442

Chwilio A i Y

Back to top