Gostyngiad ar gyfer amhariad gwybyddol sylweddol
Gall rhywun ag amhariad gwybyddol sylweddol sy'n byw ar ei ben ei hun neu dim ond gydag eraill sydd ag amhariad gwybyddol sylweddol hawlio gostyngiad o 100% o’r dreth gyngor.
Os ydyn nhw’n byw gyda pherson arall heb amhariad gwybyddol sylweddol, gall yr aelwyd honno hawlio gostyngiad o 25% o’r dreth gyngor.
Fodd bynnag, os yw rhywun ag amhariad gwybyddol sylweddol yn byw gyda dau neu fwy o oedolion nad oes ganddynt amhariad gwybyddol, nid oes gostyngiad.
Mae posib ôl-ddyddio’r gostyngiad hwn i ddyddiad y diagnosis, fel y cadarnheir gan y meddyg a thrwy dderbyn hawl i fudd-daliadau perthnasol.
Cymhwysedd ar gyfer y gostyngiad amhariad gwybyddol sylweddol
I hawlio'r gostyngiad amhariad gwybyddol sylweddol, mae angen i rywun fod: