Data Premiwm y Dreth Gyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn codi premiwm y Dreth Gyngor ar unedau eiddo dan bwerau a nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014.
Ers 1 Ebrill 2023 mae unedau eiddo Gwag Hirdymor (y rhai sy’n wag am 12 mis neu fwy) wedi gorfod talu Treth Gyngor yn ôl cyfradd o 200% o’r dreth gyngor a godir yn flynyddol. Unwaith y bydd eiddo wedi bod yn atebol am dâl premiwm am 2 flynedd, mae'r tâl premiwm yn cynyddu i 300% o'r tâl blynyddol nes bod yr eiddo'n cael ei werthu neu ei feddiannu.
O ran y sefyllfa ar 31 Mawrth 2025, roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 795 o eiddo gwag hirdymor, sydd wedi gostwng dros 25% i 580 o ran y sefyllfa ar 31 Mawrth 2026. Casglwyd incwm ychwanegol o £558,234.28 yn 2025/26.
Cyflwynwyd tâl premiwm hefyd ar ail gartrefi o 1 Ebrill 2025 ymlaen ac mae incwm ychwanegol o £160,936.60 wedi'i gasglu yn 2025/26 mewn perthynas â'r eiddo hyn.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r refeniw a gaiff ei greu o Bremiwm y Dreth Gyngor i gefnogi ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau tai a digartrefedd y Cyngor, ac i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol.