Dalgylchoedd ysgolion

Gwybodaeth dalgylchoedd i ysgolion ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Noder: Nid oes dalgylchoedd ar gyfer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg na’r ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir yn y fwrdeistref sirol.

Ysgolion Cymraeg

Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr.   

Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yn y sir.  Fodd bynnag, os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg wahanol i’r ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg agosaf i gartref y plentyn, neu i ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd y tu allan i'r sir, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno.  

Dylai unrhyw riant/gofalwr sy'n dymuno gwirio pa ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg sydd agosaf at breswylfa gartref eu plentyn e-bostio pupilservices@bridgend.gov.uk.

Mae un ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr a hynny yw Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd.  Os yw rhiant/gofalwr yn dewis gwneud cais am le mewn ysgol uwchradd cyfrwng Cymraeg sydd y tu allan i'r sir, ac mae'r cais hwnnw'n llwyddiannus, nid oes hawl i gludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol honno.

Am fanylion llawn y meini prawf ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol o fis Medi 2025, gweler y Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

Mae lleoliadau'r ysgolion cyfrwng Cymraeg ym Mhen-y-bont ar Ogwr ar y map hwn. Mae hefyd yn darparu arwyddion o bellter cerdded dwy filltir o bob un o'r ysgolion cynradd, a phellter cerdded tair milltir o'r ysgol uwchradd.

Ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir

Nid oes ardaloedd dalgylch ar gyfer ysgolion ffydd gwirfoddol a gynorthwyir ym Mhen-y-bont ar Ogwr. 

Gall rhieini/gofalwyr wneud cais am le i’w plentyn mewn unrhyw ysgol ffydd wirfoddol a gynorthwyir yn y sir.  

Fodd bynnag, os bydd rhiant/gofalwr yn gwneud cais llwyddiannus am le mewn ysgol ffydd wirfoddol a gynorthwyir wahanol i’r ysgol ffydd wirfoddol a gynorthwyir agosaf i gartref y plentyn, ni fydd gan y plentyn hwnnw hawl i gael cludiant am ddim rhwng y cartref a’r ysgol honno.

(Dylai rhieni/gofalwyr nodi mai Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-Fai yn ysgol ffydd wirfoddol a gynorthwyir, ac mae gan yr ysgol ddalgylch diffiniedig - Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Pen-y-fai - Ardal Dargylch).

Am fanylion llawn y meini prawf ar gyfer cludiant am ddim o'r cartref i'r ysgol o fis Medi 2025, gweler y Polisi Cludiant Rhwng y Cartref a’r Ysgol.

Cysylltu

E-bostiwch unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ynghylch dalgylchoedd atom:

Chwilio A i Y

Back to top