Llywodraethwyr ysgol
Mae llywodraethwyr yn chwarae rôl allweddol yn y gwaith o arwain, cefnogi a gwella ysgolion. Maent yn ddiduedd ac yn gwneud penderfyniadau sy’n ceisio gwella’r ysgol. Drwy wneud hynny, maent yn gwneud gwahaniaeth i fywydau plant a’u dyfodol.
Os byddwch yn dod yn llywodraethwr Ysgol, fe gewch foddhad o ddod yn rhan o dîm sy’n ymgymryd â rôl strategol wrth redeg yr ysgol. Byddwch yn dysgu sgiliau a fydd yn eich helpu mewn rhannau eraill o’ch bywyd ac yn manteisio ar hyfforddiant am ddim.
Nid oes angen unrhyw gymwysterau penodol arnoch i ddod yn llywodraethwr ysgol, ond mae angen i chi fod yn 18 oed neu drosodd ac mae angen i chi fod â: an interest in our children’s future;
- yr awydd i wneud gwahaniaeth
- amser ac ynni
- parodrwydd i dderbyn cyfrifoldeb
- ymrwymiad i weithio mewn tîm
- brwdfrydedd i ofyn cwestiynau, gwrando a dysgu
- y cymhelliant i helpu i lywio dyfodol addysg ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-Bont Ar Ogwr.
Unwaith y caiff ei benodi, mae tymor swydd llywodraethwr yysgol n para am bedair blynedd.
Bydd disgwyl i chi fynychu tri chyfarfod o'r corff llywodraethu bob blwyddyn, sef un y tymor, a chyfarfodydd pwyllgor, os yn berthnasol.
Swyddi gwag
Lleoedd Gwag i Lywodraethwyr Awdurdod Lleol
Llywodraethwyr yr awdurdod lleol - y llywodraethwyr hyn eu penodi gan yr awdurdod lleol. Os oes diddordeb gennych mewn dod yn llywodraethwr awdurdod lleol, lawrlwythwch ffurflen gais. Ar ôl ei chwblhau, anfonwch hi i pupilservices@bridgend.gov.uk
Dyddiad cau: 12 Medi 2025
Gwneud cais i fod yn rhiant-lywodraethwr
Mae Rhieni-Lywodraethwyr yn rhieni i blant sy'n mynychu'r ysgol.Maen nhw’n cael eu hethol drwy bleidlais i fod ar gorff llywodraethu'r ysgol gan rieni eraill y mae eu plant yn mynd i’r ysgol honno.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn rhiant-lywodraethwr, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol.
Gwneud cais i fod yn llywodraethwr cymunedol
Mae llywodraethwyr cymunedol yn cael eu penodi gan gorff llywodraethu'r ysgol i gynrychioli'r gymuned. Yn ddelfrydol, dylent fyw neu weithio yn y gymuned a wasanaethir gan yr ysgol.
Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn llywodraethwr cymunedol, cysylltwch â'r ysgol yn uniongyrchol.
Hyfforddiant llywodraethwyr
Mae hyfforddiant llywodraethwyr am ddim. Mae'r hyfforddiant yn helpu i wella eich gwybodaeth as yn eich sgiliau, ac yn eich galluogi i gymryd rhan yn effeithiol yng nghyfarfodydd y corff llywodraethu.
Rhaid i lywodraethwyr newydd ddilyn dau gwrs hyfforddiant gorfodol. Cwrs sefydlu yw un, sy’n trafod prif gyfrifoldebau llywodraethwr. Mae'r llall yn ymwneud â deall y data a ddefnyddir mewn ysgolion a sut y bydd hyn yn eich helpu i gefnogi'r ysgol.
Mae hyfforddiant hefyd ar gael ar ystod o bynciau perthnasol eraill.
Cyfarfodydd y Corff Llywodraethol
Ym mhob cyfarfod, mae llywodraethwyr yn ystyried, trafod a gwneud penderfyniadau ar ystod o bynciau, er enghraifft:
- perfformiad disgyblion a’r ysgol yn gyffredinol
- adroddiadau arolygon ysgolion
- cyllidebau
- recriwtio staff
- materion disgyblu
- gwaith cyffredinol o gynnal a chadw adeiladau a thiroedd yr Ysgol.
Ymdrinnir â llawer o faterion gan bwyllgorau'r corff llywodraethu, sydd wedyn yn cael eu hystyried i'w cymeradwyo gan y corff llywodraethu llawn.
Mae gan bob corff llywodraethu glerc, sy'n trefnu cyfarfodydd ac yn cymryd y cofnodion.