Tîm Menter

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen y Bont ar Ogwr yn cynnig ystod o gymorth busnes ac mae wedi ymrwymo i gefnogi twf busnesau. Mae gennym y wybodaeth a'r profiad i helpu’r rhai sy’n bwriadu sefydlu neu ehangu busnes yn Sir Pen-y-bont ar Ogwr, o sefydliadau o bob maint gan gynnwys prosiectau bach newydd i gwmnïau mawr aml-wladol.

Rydym yn trosi cymaint o ymholiadau â phosibl yn llwyddiant busnes ac yn parhau i helpu’r busnes i dyfu a datblygu.

Gall y tîm Menter ddarparu cyngor a chymorth busnes parhaus gan gynnwys:

  • Cefnogaeth gyda safle newydd
  • Cyfleoedd rhwydweithio drwy’r Fforwm Busnes Pen-y-bont ar Ogwr
  • Recriwtio
  • Hyfforddiant a Sgiliau
  • Cyllid a Grantiau

Cofrestrwch ar gyfer yr holl newyddion busnes diweddaraf

I gael y newyddion diweddaraf yn ymwneud â chymorth busnes, cyfleoedd ariannu, hyfforddiant, a mentrau eraill a gynigir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a phartneriaid allweddol, cysylltwch drwy anfon e-bost i:

Chwilio A i Y

Back to top