O 01 Mai i 30 Medi mae cŵn yn cael eu gwahardd oddi ar nifer o draethau ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr - Gwahardd cŵn oddi ar draethau
Trwydded casgliadau stryd
I gasglu arian neu werthu nwyddau ar y stryd at ddibenion elusennol yng Nghymru a Lloegr, bydd angen trwydded casgliadau stryd arnoch chi gennym ni.
Gan ddibynnu ar fath a lleoliad eich casgliad, efallai y bydd angen i chi gael caniatâd gan asiantaethau neu sefydliadau eraill cyn gwneud cais.
Nodwch: Polisi'r Cyngor yw caniatáu un drwydded y dydd i bob ardal
Gwneud cais
I wneud cais, llenwch y ffurflen gais ar-lein.
Fel arall, lawrlwythwch y ffurflen gais berthnasol:
Dychwelwch ffurflenni cais wedi'u cwblhau at:
Cewch chi gymryd bod eich cais wedi’i gymeradwyo os nad ydych chi wedi clywed gan yr awdurdod lleol erbyn diwedd y cyfnod cwblhau targed.
Noder mai 28 diwrnod yw’r cyfnod cwblhau targed yn achos ceisiadau am drwyddedau casgliadau stryd.
Os bydd eich casgliadau arfaethedig yn digwydd ar ddyddiad penodol, dylech chi gysylltu â ni i ofyn p'un a yw'r dyddiad hwn ar gael cyn cyflwyno cais.
Anfonwch y dogfennau perthnasol atom ni o leiaf 28 diwrnod cyn dyddiad arfaethedig y casgliad.