Casgliadau ailgylchu a gwastraff - Ni fydd unrhyw gasgliadau ddydd Llun 31 Awst, ac o ganlyniad bydd holl gasgliadau’r wythnos honno un diwrnod yn hwyrach na'r arfer hyd at ddydd Sadwrn 5 Medi.
Trwyddedau Gamblo
Rydym yn dosbarthu trwyddedau ar gyfer adeiladau lle y bydd gamblo’n digwydd. Mae hynny’n cynnwys lleoedd megis:
- clybiau
- safleoedd trwyddedig ar gyfer alcohol
- neuaddau bingo
- adeiladau betio gan gynnwys traciau
- canolfannau adloniant i oedolion a’r teulu
Hefyd, rydym yn cadw cofrestr o loterïau bach a pheiriannau gemau.
Gwneud cais
I wneud cais, lawrlwythwch a llenwch y ffurflen gais berthnasol.
Mae rhai ffurflenni wedi’u nodi gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) a chaiff rhai eu cymeradwyo gan ein His-Bwyllgor Trwyddedu.
Dychwelwch eich ffurflenni gais wedi'i chwblhau at:
Cyfeiriad: Trwyddedu, Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen‑y‑bont ar Ogwr, Swyddfeydd Dinesig, Stryd yr Angel, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 4WB
Cyfeiriad ebost: licensing@bridgend.gov.uk