Cyngor a democratiaeth

Mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 51 o gynghorwyr sy’n cael eu hethol bob pum mlynedd. Maent yn cynrychioli safbwyntiau’r trigolion sy’n byw yn un o’r 28 o wardiau neu adrannau etholaethol yn y fwrdeistref sirol, gyda 15 ohonynt yn wardiau aml-aelod.

Prif ddyletswydd y cynghorwyr yw cynrychioli’r gymuned gyfan, ond mae ganddynt ddyletswydd arbennig i’w hetholwyr, gan gynnwys y rheiny na bleidleisiodd drostynt.

Mae’r Cyngor yn penodi Arweinydd y Cyngor yn y cyfarfod blynyddol a phenderfynu hefyd ar y Fframwaith Polisi cyffredinol a gosod y Gyllideb bob blwyddyn.

Mae’r Arweinydd yn penderfynu ar faint ac aelodaeth y Cabinet, sy’n cael eu penodi i ymgymryd â swyddogaethau’r Cyngor nad ydynt yn gyfrifoldeb ar unrhyw adran arall yn y Cyngor, boed yn ôl y Gyfraith neu dan y Cyfansoddiad, ynghyd â gwneud penderfyniadau o fewn y Gyllideb a’r Fframwaith Polisi a osodir gan y Cyngor.

Mae Cyfansoddiad y Cyngor yn disgrifio'r gwahanol swyddi a chyrff sy'n rhan o'r cyngor, ynghyd â’u cyfrifoldebau, swyddogaethau , a’r rheolau gweithdrefnol sy’n pennu sut mae’r cyrff hyn yn gweithio â’i gilydd i ddarparu gwasanaethau. 

Civic Offices

Hysbysiad o Refferendwm y Maer

Yng Nghymru, gall pob cyngor sir a chyngor bwrdeistref sirol wneud trefniadau i weithredwyr gyflawni ei swyddogaethau.

Rhaid i weithredwyr awdurdod lleol fod ar un o'r ffurfiau a bennir yn Adran 11 Deddf Llywodraeth Leol 2000. 
Pan fo cynnig awdurdod ar gyfer aelod gweithredol yn cynnwys maer etholedig, mae’n rhaid iddo gynnal refferendwm cyn cymryd camau i weithredu'r cynigion.

Rhaid cynnal refferendwm hefyd pan fo o leiaf 10% o etholwyr llywodraeth leol yn deisebu'r awdurdod yn ystod y cyfnod deisebu. Mae cyfnodau deisebu yn dechrau deuddeg mis cyn y dyddiad y cynhelir etholiadau llywodraeth leol arferol, ac yn para am chwe mis.  

Bydd y cyfnod deisebu nesaf yn dechrau ar 6 Mai 2026 ac yn dod i ben ar 6 Tachwedd 2026.

Chwilio A i Y

Back to top