Dod yn gynghorydd

Mae cynghorwyr yn cael eu hethol gan bobl yn eu cymuned i'w cynrychioli a gwneud penderfyniadau ar eu rhan. Mae bod yn gynghorydd yn rhoi boddhad, yn heriol ac yn bleserus a gallwch chi newid bywydau pobl er gwell.

Gall unrhyw un bron fod yn gynghorydd, ac mae'n bwysig iawn bod ystod o wahanol bobl yn cael eu hethol i gynrychioli gwahanol gymunedau.

  • Ydych chi'n poeni'n angerddol am eich cymuned leol?
  • Oes rhywbeth rydych chi eisiau ei newid?
  • Ydych chi'n barod i wneud penderfyniadau heriol?

Mae Cymru angen mwy o gynghorwyr sydd o dan 40 oed, benywaidd, anabl, LGBTQ +, Du neu Asiaidd neu o grwpiau lleiafrifol eraill ac o ystod o gredoau, diwylliannau ac amgylchiadau personol.

Yn gryno, rydym yn chwilio am fwy o gynghorwyr sydd mor amrywiol â'r cymunedau maent yn eu cynrychioli. Mae gan ymgeiswyr anabl hawl hefyd i gael cyllid i helpu gydag unrhyw gostau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'u nam, a allai fod yn rhwystr sy’n eu hatal rhag sefyll fel cynghorydd.

Cymhwysedd

Gallwch chi fod yn ymgeisydd os ydych chi:

  • dros 18 oed
  • ar y gofrestr etholiadol
  • wedi byw, gweithio neu’n berchen ar eiddo yn y fwrdeistref sirol am y 12 mis diwethaf o leiaf.

Nid ydych yn gymwys neu gallwch gael eich gwahardd:

  • os oes gennych swydd sydd wedi'i chyfyngu'n wleidyddol yn eu hawdurdod lleol neu mewn awdurdod arall.
  • os ydych yn datgan eich bod yn fethdalwr neu’n datgan euogfarn flaenorol gyda dedfryd o dri mis neu fwy o garchar o fewn cyfnod o 5 mlynedd cyn ceisio cael eich ethol

Dylai darpar ymgeiswyr ofyn am eu cyngor cyfreithiol eu hunain os ydynt yn ansicr ynghylch a ydynt yn gymwys i sefyll.

Cymorth a Chanllawiau

Gallwch hefyd gael gwybod mwy am fod yn gynghorydd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr drwy fynychu un o'n cyfarfodydd pwyllgor cyhoeddus neu siarad yn anffurfiol ag un o'n cynghorwyr presennol.    

Council Chamber

Darganfyddwch sut i ddod yn gynghorydd mewn sesiynau am ddim

Gydag etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal ym mis Mai 2027, mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn trefnu sesiynau darpar ymgeiswyr lle gall preswylwyr ddarganfod mwy am ddod yn gynghorydd a sefyll mewn etholiad.

Yn digwydd rhwng 6pm ac 8pm ddydd Mawrth 13 Hydref a dydd Mercher 14 Hydref, mae'r sesiynau am ddim wedi'u trefnu i annog mwy o bobl i gymryd rhan yn y broses ddemocrataidd ac i ledaenu ymwybyddiaeth o rolau aelodau etholedig. 

Chwilio A i Y

Back to top