Casgliadau gwastraff ac ailgylchu Gŵyl y Banc: Ni fydd casgliadau ar Dydd Llun 26 Mai 2025. Bydd y casgliadau’n digwydd ddiwrnod yn hwyrach na’r arfer ar gyfer yr wythnos tan ddydd Sadwrn 31 Mai 2025.
Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Siarter newydd yn addo agwedd newydd ar gyfer perthnasau sydd wedi cael profedigaeth a rhai sydd wedi goroesi trasiedïau cyhoeddus
Dydd Mawrth 18 Mawrth 2025
Mae sefydliadau ar hyd a lled Cymru wedi arwyddo siarter sy’n cytuno i ymateb i drasiedïau cyhoeddus mewn ffordd agored a chyda thryloywder ac atebolrwydd.
Newyddion da i ailddatblygiad Pafiliwn y Grand wrth i’r Cyngor gymeradwyo cyllid ar gyfer y cam nesaf
Dydd Gwener 14 Mawrth 2025
Mewn cyfarfod o’r Cyngor ddoe (12 Mawrth), cytunodd yr aelodau etholedig i roi £4m o’r arian gan Lywodraeth Cymru i ganiatáu i’r cam tyngedfennol nesaf ym mhrosiect ailddatblygu Pafiliwn y Grand, Porthcawl fynd yn ei flaen.

Diweddariad i breswylwyr ynghylch newidiadau i gyflenwad bagiau sbwriel glas
Dydd Gwener 07 Mawrth 2025
O Ebrill 2025, yn unol ag awdurdodau lleol eraill yng Nghymru, ni fyddwn bellach yn cyflenwi bagiau gwastraff glas i drigolion ar gyfer eu casgliadau gwastraff cartref pob pythefnos.

Mae gofalwyr maeth ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn croesawu cynllun i ddileu’r gallu i wneud elw mewn gofal plant
Dydd Mawrth 04 Mawrth 2025
Ar y Diwrnod Gofal hwn (21 Chwefror) ymunodd Maethu Cymru Pen-y-bont ar Ogwr â’r gymuned faethu wrth amlygu’r buddion o ofal mewn awdurdod lleol wrth i Fil arloesol Iechyd a Gofal Llywodraeth Cymru ddechrau’r broses o ddileu elw o’r system gofal plant.
Lle ar gael ar y Pwyllgor Safonau
Dydd Mawrth 04 Mawrth 2025
Mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr am benodi dau aelod Annibynnol (Cyfetholedig) i wasanaethu ar ei Bwyllgor Safonau.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cymeradwyo cyllideb ar gyfer 2025-26
Dydd Iau 27 Chwefror 2025
Mae cyllideb refeniw net o £383.3m wedi ei chytuno ar gyfer 2025-26 gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

Gwaith trawsnewid yng Ngwarchodfa Natur Parc Bedford wedi dechrau
Dydd Gwener 21 Chwefror 2025
Mae disgwyl i Warchodfa Natur Parc Bedford, sy’n gartref i 18 hectar o ardal werdd ac adfeilion Gwaith Haearn Cefn Cribwr yr 18fed ganrif, elwa o drefniadau i wella mynediad, gyda gwaith eisoes wedi dechrau.

Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi a Seremoni Rhoi Cenhinen
Dydd Gwener 21 Chwefror 2025
Bydd Bataliwn Cyntaf y Gwarchodlu Cymreig yn ymuno â Chyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr i gynnal Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi a Seremoni Rhoi Cenhinen ar ddydd Sadwrn 1 Mawrth 2025, yng Nghanol Tref Pen-y-bont ar Ogwr.

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg yn ymuno â Menter Fast Track Cymru
Dydd Iau 20 Chwefror 2025
Mae Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Cwm Taf Morgannwg wedi llofnodi datganiad Paris yn ddiweddar i ymuno â Menter Fast Track Cymru sy’n ymrwymo i gydweithio i ddod â throsglwyddiadau newydd o Feirws Imiwnoddiffygiant Dynol (HIV) i ben.
Ysgol Maesteg yn hawlio'r wobr aur anrhydeddus am ei hymdrechion gyda'r Gymraeg
Dydd Iau 20 Chwefror 2025
Ysgol Maesteg yw'r ysgol ddiweddaraf ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i dderbyn y Wobr Aur Siarter Iaith uchel ei bri.