Mae’r casgliad gwastraff gardd ar gael i drigolion Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae gwastraff gardd yn cael ei gasglu bob pythefnos rhwng misoedd Mawrth a Thachwedd (17 Mawrth - 14 Tachwedd 2025).
Rhowch eich gwastraff gardd o flaen eich tŷ rhwng 7pm y noson cynt a 7am ar ddiwrnod y casgliad.
Sylwer: Byddwch yn cael gwybod pa ddiwrnod yw’r diwrnod casglu eich gwastraff gardd pan fydd eich sachau’n cael eu dosbarthu.
Os ydych yn symud tŷ o fewn y fwrdeistref sirol, gall eich casgliad gael ei symud i’ch cyfeiriad newydd.
Gallwch hefyd ailgylchu eich gwastraff gardd am ddim yn eich canolfan ailgylchu agosaf.