Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer bellach ar agor - Gwneud enwebiad
Gofod Dros Dro ym Marchnad Maesteg
Mae 'For a Limited Time Only…?’ yn ofod dros dro newydd yn Uned 14 ym Marchnad Maesteg, sy'n cynnig cyfle i fusnesau lleol, pobl greadigol a grwpiau cymunedol arddangos eu gwaith, profi syniadau newydd, neu gysylltu â chwsmeriaid.
P'un a ydych chi newydd ddechrau, yn rhoi cynnyrch newydd ar brawf, neu'n chwilio am ffordd risg isel o godi eich proffil, mae'r gofod hwn ar eich cyfer chi.
Gallai bob wythnos ddod â rhywbeth newydd - ac efallai dechrau rhywbeth mwy!
I'w gyhoeddi.
I'w gyhoeddi.

Pink Freak Boutique
Dydd Mercher 14 Mai - Dydd Sadwrn 31 Mai 2025
Mae Pink Freak Boutique yn darparu offer ac ategolion coluro amgen ar gyfer egin artistiaid coluro.
Mudwerx Bespoke Pottery
Dydd Llun 2 Mehefin - Dydd Sadwrn 14 Mehefin 2025
Mae Muxwerx Bespoke Pottery yn fusnes creadigol bach sydd wedi'i wreiddio mewn cymuned, cysylltu a grym therapiwtig clai. Wedi'i redeg gan Drew Richards, mae Mudwerx yn cynnal amrywiaeth o weithdai a dosbarthiadau cymunedol, law yn llaw â chyflawni darnau comisiwn pwrpasol.
Entwined Together Crafts by Pip
Dydd Llun 16 Mehefin - Dydd Iau 10 Gorfennaf 2025
Mae Entwined Together Crafts by Pip yn fusnes bach sy'n creu eitemau pwrpasol wedi'u gwneud â llaw o hen ddenim a ffabrigau diwedd llinell.
Kakes by Kate
Dydd Llun 14 Gorffennaf - Dydd Iau 24 Gorffennaf 2025
Mae Kakes by Kate yn bobydd hunanddysgedig o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n arbenigo mewn brownis a blondis blasus, moethus a gludiog wedi’u pobi gartref.
Nature's Printmaker
Dydd Sadwrn 26 Gorffennaf - Dydd Iau 21 Awst 2025
Mae Carly Lewis, sylfaenydd Nature's Printmaker, yn cynnal gweithdai celf sydd yn addas i blant ac oedolion, wedi'u hysbrydoli gan natur ac yn canolbwyntio ar les. Yn gyn-athrawes gelf ysgol uwchradd, mae hi'n dod â mwy na degawd o brofiad i sesiynau creadigol sy'n tawelu'r meddwl ac yn sbarduno dychymyg. Ymunwch a gwneud rhywbeth hardd gyda'ch gilydd.

In A Melted Mood
Dydd Gwener 22 Awst - Dydd Iau 28 Awst 2025
Wedi'i greu gan Tasha Jenkins, mae In A Melted Mood yn cynhyrchu cwyr tawdd o ansawdd uchel, gydag arogleuon cryf, sy’n para mewn siapiau cwmwl nodweddiadol.

Nude Jewels
Dydd Llun 8 Medi - Dydd Sadwrn 4 Hydref 2025
Mae Jodie Phillips yn gof arian hunanddysgedig o Bencoed. Mae hi'n creu gemwaith arian sterling gyda thlysau go iawn ac mae ganddi angerdd enfawr am opalau o Awstralia. Mae hi’n creu darnau personol ar archeb i lawer o'i chwsmeriaid. Astudiodd gelf gain yn y brifysgol lle buodd yn gweithio gyda'r ffurf fenywaidd yn bennaf, ac mae’n defnyddio ei phrofiad celf i baentio patrymau ar fagiau tôt a chrysau-t.

Indie Love Cymru
Dydd Llun 6 Hydref – Dydd Sul 19 Hydref 2025
Mae Indie Love Cymru yn gymuned o awduron rhamant annibynnol, sy'n cynnal gweithdai a digwyddiadau ledled y wlad. Bydd eu Digwyddiad Untro Indie Love yn cynnig trysorfa o lyfrau rhamant annibynnol, gan gynnwys argraffiadau wedi'u llofnodi ac argraffiadau arbennig, nwyddau llenyddol a gweithdai creadigol.

Modern Welsh Quilts
Dydd Llun 20 Hydref - Dydd Sadwrn 02 Tachwedd 2025
Mae Modern Welsh Quilts yn fusnes gafodd ei sefydlu gan Zelda Lawrence-Curran, cwiltiwr pumed genhedlaeth a ddysgodd y grefft gan ei theulu o Gymru tra’n byw yng Nghaint.
Mae gan gwiltio Cymreig hanes dros 250 mlynedd ac roedd yn arbennig o amlwg yng nghymoedd Llynfi a Garw yn ystod y 1800au a dechrau'r 1900au. Mae'n draddodiad unigryw sy'n dod o'r ardal hon, ac yn rhywbeth y gall pobl leol ymfalchïo ynddo.
Nawr bod Zelda wedi dychwelyd i'r cymoedd, mae hi eisiau ysbrydoli pobl leol i ddechrau gwneud cwiltiau eto. Y siop dros dro yw'r cam cyntaf i ddod â'r traddodiad hwnnw yn ôl.
Bydd dosbarthiadau undydd sy'n addas i ddechreuwyr lle gallwch ddysgu'r technegau cwiltio sylfaenol a chreu darn o dreftadaeth Llynfi-Garw i fynd gartref gyda chi. Bydd gan y prosiectau thema Nadolig, fel y gallwch ddechrau'n gynnar ar eich creadigaethau Nadoligaidd.