Mae’r budd-dal yma o help i bobl ar incwm isel dalu eu treth gyngor.
Efallai y byddwch yn gymwys os ydych yn hawlio credyd cynhwysol, ESA neu os yw'ch incwm islaw lefel benodol.
Gallwch wirio eich cymhwysedd gan ddefnyddio'r Cyfrifiannell Budd-daliadau:
Gwneud cais am ostyngiad treth y cyngor
Gallwch wneud cais am ostyngiad yn y dreth gyngor drwy lenwi ffurflen Fy Nghyfrif ar-lein ‘Gwneud Cais am Fudd-dal Tai a Gostyngiad yn y Dreth Gyngor’
Sylwer: Nad oes gennych hawl i ddal taliadau treth gyngor yn ôl tra mae eich hawliad yn cael ei asesu.
Os bydd gostyngiad treth gyngor yn cael ei ddyfarnu i chi, bydd y dadansoddiad yn esbonio sut cafodd ei gyfrif a’ch dyletswydd i roi gwybod i’r tîm Treth Gyngor am unrhyw newidiadau.