Data Premiwm y Dreth Gyngor
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn codi premiwm y Dreth Gyngor ar unedau eiddo dan bwerau a nodir yn Neddf Tai (Cymru) 2014. Ers 1 Ebrill 2023 mae unedau eiddo Gwag Hirdymor (y rhai sy’n wag am 12 mis neu fwy) wedi gorfod talu Treth Gyngor yn ôl cyfradd o 200% o’r dreth gyngor a godir yn flynyddol.
O ran y sefyllfa ar 31 Mawrth 2023 roedd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 786 o unedau eiddo gwag hirdymor sydd wedi gostwng fwy na 40% i 447 o ran y sefyllfa ar 31 Mawrth 2024. Casglwyd incwm ychwanegol o £498,599.83 yn 2023/24.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn defnyddio’r refeniw a gaiff ei greu o Bremiwm y Dreth Gyngor i gefnogi ystod eang o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau tai a digartrefedd y Cyngor, ac i helpu i ddiwallu anghenion tai lleol.