Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Y Cyngor yn rhoi hwb i Faesteg gyda 'Marchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn'
Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Gall siopwyr Nadolig edrych ymlaen at 'Farchnad Nadolig Maesteg Llawen Iawn', a gynhelir ddydd Sadwrn 13 Rhagfyr rhwng 11am a 3pm yn Sgwâr Marchnad Maesteg.
Pen-y-bont ar Ogwr yn dathlu Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy
Dydd Gwener 28 Tachwedd 2025
Mae Pen-y-bont ar Ogwr wedi derbyn Gwobr Efydd Lleoedd Bwyd Cynaliadwy yng nghystadleuaeth flynyddol Cynhadledd Gwir Fwyd a Ffermio Cymru (CGFFfC), a gynhaliwyd yng Ngholeg Pen-coed ar 18 Tachwedd.
Ceisio barn ar Uwchgynllun Adfywio Glannau Porthcawl
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
Rydym yn gwahodd trigolion Porthcawl i gymryd rhan yn rownd olaf ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch cynlluniau a allai drawsnewid glan môr Porthcawl a darparu cymysgedd o dai, cyfleoedd hamdden a busnes newydd, ac ystod enfawr o gyfleusterau cymunedol.
Ysgolion yn dathlu llwyddiant gyda gwobrau ar gyfer rhaglen 'Bwyd a Hwyl'
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
Mae ysgolion y fwrdeistref sirol wedi cael eu cydnabod am eu cyfraniad eithriadol i'r rhaglen Bwyd a Hwyl, gan ennill gwobr flaenllaw yn y degfed Gwobrau Bwyd a Hwyl, a gynhaliwyd yn y Cornerstone yng Nghaerdydd.
Cynnydd sylweddol wedi'i wneud gyda gwaith adfer inswleiddio waliau Caerau
Dydd Iau 20 Tachwedd 2025
Mae cynnydd sylweddol wedi cael ei wneud gyda gwaith adfer inswleiddio waliau Caerau ac mae pob eiddo cofrestredig cymwys bellach wedi cael gwared ar yr inswleiddio blaenorol.
Ansawdd aer yn parhau i wella ar Stryd y Parc
Dydd Mercher 19 Tachwedd 2025
Mae lefelau nitrogen deuocsid ar Stryd y Parc yng nghanol tref Pen-y-bont ar Ogwr yn parhau i ostwng yn dilyn mesurau a gyflwynwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr i wella ansawdd aer lleol.
Enwebiadau ar agor ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr 2026
Dydd Mawrth 11 Tachwedd 2025
Mae enwebiadau ar gyfer Gwobrau Dinasyddiaeth Maer Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr bellach ar agor, ac mae cymunedau lleol yn cael eu hannog i enwebu preswylwyr, grwpiau neu sefydliadau sydd wedi gwneud cyfraniad cadarnhaol i fywyd ym Mwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Cefnogwch blentyn lleol y Nadolig hwn trwy gyfrannu at Apêl Siôn Corn
Dydd Iau 06 Tachwedd 2025
Mae trigolion a busnesau ledled Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn cael eu gwahodd i helpu i ddod â llawenydd i blant a phobl ifanc agored i niwed y Nadolig hwn trwy gefnogi Apêl Siôn Corn.
Mae'r Cyngor yn annog trigolion i 'siopa'n lleol' a chefnogi busnesau annibynnol a digwyddiadau yn y cyfnod cyn yr ŵyl.
Dydd Iau 06 Tachwedd 2025
Mae ymgyrch flynyddol y Cyngor 'Treuliwch y Nadolig yng nghanol eich tref' wedi lansio yr wythnos hon, gan ddod â hyrwyddiadau siopa tymhorol cyffrous a chalendr llawn o hwyl Nadoligaidd i'r teulu cyfan
Amlosgfa Llangrallo yn rhoi £10,000 i Ofal Canser Tenovus
Dydd Mercher 05 Tachwedd 2025
Mae Amlosgfa Llangrallo wedi rhoi £10,000 i Ofal Canser Tenovus fel rhan o gynllun cenedlaethol sy'n codi arian ar gyfer ystod eang o achosion da ledled y Deyrnas Unedig.