Newyddion
Cymerwch gipolwg ar y newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.

10K Porthcawl wedi gwerthu allan ac yn dychwelyd Ddydd Sul yma gyda mwy nag erioed yn rhedeg
Dydd Mercher 02 Gorffennaf 2025
Mae 10K Brecon Carreg Porthcawl yn dychwelyd y penwythnos hwn (Dydd Sul 6 Gorffennaf) ac atgoffir trigolion y bydd rhai mesurau diogelwch ar waith gan gynnwys cau ffyrdd dros dro a dargyfeirio bysiau.
Y Cyngor yn gweithredu ar gamddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus
Dydd Mawrth 01 Gorffennaf 2025
Mae trigolion yn cael eu hannog i gael gwared ar eu sbwriel mewn ffordd gyfrifol, yn dilyn cynnydd yn nifer yr adroddiadau am dipio anghyfreithlon a chamddefnyddio biniau sbwriel cyhoeddus.

Cymuned yn dathlu gweddnewidiad Gwarchodfa Natur Parc Bedford
Dydd Iau 26 Mehefin 2025
Yn ddiweddar, dathlodd preswylwyr, plant ysgol, grwpiau gweithredu gwirfoddol, rhanddeiliaid a phwysigion lansiad swyddogol y trefniadau mynediad newydd yng Ngwarchodfa Natur Parc Bedford, sy'n amgylchynu 18 hectar o ofod gwyrdd ac adfeilion Gwaith Haearn Cefn Cribwr o'r 18fed ganrif.

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr yn dod â blas newydd i ganol tref Maesteg
Dydd Llun 23 Mehefin 2025
Mae manwerthwyr bwyd poeth symudol lleol yn cael eu gwahodd i arddangos eu bwydlenni mewn digwyddiad bwyta gyda’r nos dros dro unigryw a gynhelir yn Sgwâr Marchnad Maesteg ddydd Gwener 1 Awst.
Diwrnod y Lluoedd Arfog yn dychwelyd i ganol tref Pen-y-bont ar Ogwr
Dydd Mawrth 17 Mehefin 2025
Mae Cyngor Tref Pen-y-bont ar Ogwr yn gwahodd trigolion i ymuno â'i ddigwyddiad blynyddol i ddathlu’r Lluoedd Arfog sy'n anrhydeddu'r gymuned filwrol yn y fwrdeistref sirol.

Crochenydd lleol yn gweld llwyddiant busnes mewn uned dros dro ym Marchnad Maesteg
Dydd Llun 16 Mehefin 2025
Mae ail fusnes Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi gweld llwyddiant drwy fenter dros dro o’r enw 'For a Limited Time Only...?' ym Marchnad Maesteg diolch i dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor.

Glanhau cydweithredol gan y Cyngor ar lôn Maesteg
Dydd Sul 15 Mehefin 2025
Cafodd lôn yng nghanol tref Maesteg sydd wedi bod yn dueddol o ddenu ymddygiad gwrthgymdeithasol a thipio anghyfreithlon gael ei hailwampio'n ddiweddar trwy ymdrechion ar y cyd timau Diogelwch Cymunedol, Addysg a Gorfodi Gwastraff ac Adfywio Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ochr yn ochr â chynghorwyr tref a busnesau lleol, Grŵp Ieuenctid a Chymunedol Noddfa, a'r Sefydliad Troseddwyr Ifanc (YOI) yng Ngharchar y Parc.

Dathlu llwyddiant darpariaeth newydd ar gyfer disgyblion ag anawsterau dysgu cymedrol
Dydd Mercher 11 Mehefin 2025
Mae Ysgol Gynradd Gymraeg Cynwyd Sant ac Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, ill dwy ym Maesteg, yn dathlu llwyddiant darpariaeth newydd sydd wedi cefnogi disgyblion ysgolion cynradd ag anawsterau dysgu cymedrol i bontio i’r ysgol gyfun.
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyrraedd y brig fel y mwyaf cost-effeithiol o ran gwasanaethau gwastraff yng Nghymru
Dydd Mawrth 10 Mehefin 2025
Mae adroddiad diweddar a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC) unwaith eto wedi enwi Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel yr awdurdod lleol mwyaf cost-effeithiol yng Nghymru ar gyfer gwasanaethau gwastraff y cartref, ac un o'r darparwyr awdurdodau lleol sy'n costio isaf ar gyfer gwasanaethau ailgylchu.

Cynwysyddion Llongau ar fin trawsnewid economi glan môr Porthcawl
Dydd Llun 09 Mehefin 2025
Mae menter newydd fywiog y glannau wedi'i lansio gan dîm Datblygu Economaidd a Menter y cyngor i ddarparu cyfleoedd manwerthu byrdymor hyblyg i entrepreneuriaid ym Mhorthcawl.