Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-bont ar Ogwr

Gwnaeth Deddf Cefn Gwlad a Hawliau Tramwy 2000 (Deddf 2000) hi’n ofynnol i Fforymau Mynediad Lleol (FfMLl) gael eu sefydlu ym mhob Awdurdod Lleol a Pharc Cenedlaethol yng Nghymru a Lloegr. 

Maent yn gyrff a sefydlwyd i gynghori ar wella mynediad y cyhoedd at dir yn eu hardal at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau'r ardal ac ar faterion eraill fel y rhagnodir gan Lywodraeth Cymru (Deddf 2000 Adran 94(4)) 

 

Sut cawsant eu sefydlu? 

Rhoddodd Deddf 2000 ddyletswydd statudol ar "awdurdodau penodi" i sefydlu FfMLl yn eu hardal. Sefydlodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr eu FfMLl cyntaf ar 28 Tachwedd 2002, gan benodi aelodau â diddordebau a phrofiadau amrywiol o gerddwyr lleol i dirfeddianwyr, ffermwyr, marchogion, pobl gyffredin, a grwpiau diddordeb defnyddwyr eraill.

Mae'r Fforwm, ac felly aelodaeth ohono, yn para am 3 blynedd cyn i'r cyngor orfod ei ailsefydlu.

Gall aelodau'r fforwm ail-ymgeisio i ymuno â'r fforwm nesaf ond mae'r cyngor hefyd yn gwahodd datganiadau o ddiddordeb gan unigolion eraill sydd â diddordeb naill ai'n uniongyrchol neu drwy hysbysebu yn y wasg leol ac ar wefan y cyngor.

Bydd y Fforwm Mynediad Lleol 3 blynedd presennol (FfMLl 6) yn dod i ben ym mis Hydref 2026.  

 

Pwy maen nhw'n cynghori?

Swyddogaeth statudol Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-bont ar Ogwr yw cynghori ar wella mynediad cyhoeddus i dir ym Mhen-y-bont ar Ogwr at ddibenion hamdden awyr agored a mwynhau’r ardal. 
Wrth gyflawni ei swyddogaethau, rhaid i FfMLl roi sylw i:

  • anghenion rheoli tir
  • dymunoldeb gwarchod harddwch naturiol yr ardal y mae wedi ei sefydlu ar ei chyfer, gan gynnwys planhigion, anifeiliaid a nodweddion daearegol a ffisiograffigol yr ardal
  • Canllawiau a roddir o bryd i'w gilydd gan Lywodraeth Cymru. 

Aelodaeth

Mae gwahoddiadau i ymuno â chweched tymor Fforwm Mynediad Lleol Pen-y-bont ar Ogwr wedi cau bellach. Fodd bynnag, os oes gennych ddiddordeb mewn dod yn aelod ar gyfer y seithfed gallwch wneud cais nawr ac ar unrhyw adeg yn ystod tymor 3 blynedd y Fforwm.

Cymerwch amser i ddarllen y nodiadau canllaw ac yna llenwch y ffurflen gais.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau eraill, cysylltwch ag ysgrifennydd y Fforwm Mynediad Lleol, Andrew Mason:

Ffôn: 01656 642537

Chwilio A i Y

Back to top